Cymanfa Gwerth Chweil

Cip tu ôl i’r llen yng nghymanfa’r eisteddfod

gan Efan Williams

Cynhaliwyd Cymanfa Ganu Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion 2022 yn y pafiliwn yn Nhregaron nos Sul. Dyma achlysur gwych i gau pen y mwdwl ar benwythnos agoriadol yr eisteddfod.

Roedd côr ardderchog y gymanfa a chynnulleidfa nigerus o dan arweinyddiaeth medrus Delyth Hopkins-Evans, Pontrhydygroes. Cafwyd canu hynod gelfydd ac afiaethus o rai o ffefrynnau’r genedl mewn SATB a chafwyd perfformiad ardderchog o’r anthem enwog “Dyn a Aned yn Frawd” gan D Christmas Williams gan gôr y gymanfa.

Cefais innau’r fraint o roi perfformiad o Unwaith Eto Nghymru Annwyl gan E.D Williams fel rhan o seremoni Cymru a’r Byd. Dyma dipyn o luniau “tu ôl i’r llen”.

Ymlaen!