Cwrdd Bach yn Cwrdd ‘To

Aelodau Cymdeithas Capel Rhydlwyd Lledrod yn dod at at ei gilydd eto

Anna ap Robert
gan Anna ap Robert
Geraint Lloyd Tynrhelyg yn derbyn y gadair am y limrig orau.
Alun Jenkins yn cyflwyno'r gadair i Geraint Lloyd

Ar ôl cyfnod o ddwy flynedd heb gwrdd daeth aelodau Cymdeithas Capel Rhydlwyd Lledrod at ei gilydd nos Wener diwetha i dafarn y Bont Bronnant am wledd o gwrdd bach ‘ffwrdd â hi’ go iawn!  Er nad oedd yno gystadlu o’r canu a’r llefaru arferol bu cystadlu brwd ar y tasgau ysgrifenedig sef cyfansoddi brawddeg ar y llythrennau PENBANC, brys neges ar y llythyren ‘T’ ac wrth gwrs gorffen y limrig.  Roedd y noson hefyd yn gyfle i Lowri Jones Abernac gyflwyno siec o £407.00 ar ran y gymdeithas i Ambiwlans Awyr Cymru a godwyd yng Nghwrdd Diolchgarwch a gwasanaeth Nadolig y capel yn 2021. Cafwyd digon o gyfle i ddal fyny â ffrindiau a chymdogion dros bryd o fwyd hyfryd o gawl, bara a chaws.  Y gŵr gwadd oedd Mr Alun Jenkins Pontarfynach ac yntau hefyd oedd yn beirniadu. Bu morio chwerthin wrth i Ioan Williams, Lowri Jones a Geraint Lloyd ymgeisio ar y dasg o ‘siarad ar y pryd’ am eitem oedd wedi ei selio mewn amlen o flaen llaw gan Alun Jenkins.  Eitemau digon diddorol oedden nhw hefyd!  Diolch i Bethan Hopkins-Williams, Meinir Jenkins ac Efan Williams am drefnu’r noson ac i Ioan Williams am roi’r diolchiadau.

Enillydd y frawddeg oedd Bethan Hopkins-Williams Glandŵr:

Pandemig eithriadol newidiodd bywyd a nychu cymdeithas.

Cydradd gyntaf oedd y brys neges i Wiliam Jenkins Ynysforgan ac i William Jenkins Ynysforgan (dim ond mewn cwrdd bach!!):

Talbot,Tregaron.

Tise tamaid Twm?

Tania,

Tregaron  tri tri tri.

 

Tinder Twm Tynllan —

Terramycin, Triplephosphate,

Toyotapickup

Gwobrwywyd y brif wobr am y darn gorau allan o’r limrigau, y brawddegau a’r brys negeseuon i gyd i Geraint Lloyd ac mi dderbyniodd y gadair (yn rhoddedig gan Mr John Davies er cof am Elinor a Ieuan Davies Rhydlwyd) am ei ymgais (funud ola!) i orffen y limrig:

  • Bu earthquake ym Mronnant un noson
  • Gan ysgwyd y lle i’r ymylon
  • Ond beth welodd y bobl, y bore canlynol
  • O’dd Tafarn y Bont yn Llangwyryfon!