Cneifo Bont nôl.

Cystadleuaeth gneifo leol! 

Eleri James
gan Eleri James

Mae Cneifo Bont yn cael ei gynnal am y tro cyntaf ers 2019 ym Mhafiliwn Bont ar y 31ain o Orffennaf. Mae’r Pwyllgor wrthi yn trefnu a pharatoi i groesawu pawb yn ôl.

Eleni mae cystadleuaeth trin gwlân gyda ni am y tro cyntaf erioed a bydd yr enillydd yn rhan o dîm trin gwlân Cymru. Mae dosbarthiadau nofis yn y trin gwlân hefyd.

Wrth gwrs, mae cystadleuaeth cneifio a thrin gwlân Bont yn rhan o’r ‘circuit cneifio.’ Mae Cneifio Bont yn awyddus i gefnogi cneifwyr ifanc ac felly’n cynnwys cystadleuaeth Cneifio Nofis.

Bydd adloniant gyda’r hwyr – Smoking Guns, a digon o fwyd a diod wrth y bar.

Mae’r Pwyllgor yn edrych ymlaen i groesawu cystadleuwyr hen a newydd nôl unwaith eto i Bafiliwn Bont – dewch i gefnogi.

Bydd y cyfan yn dechrau am 8 y bore. Er mwyn cofrestru i gystadlu, tecstiwch y rhif yma, 07811027050 neu cysylltwch trwy’r dudalen Facebook.