Cafwyd noson ardderchog yng Nghlwb Pêl Droed Aberystwyth ar nos Sadwrn 26 Tachwedd. Noson i godi arian i Apêl Uned Cemotherapi Ysbyty Bronglais oedd hon. Yr artistiaid oedd Clive Edwards, Hendy Gwyn a Pharti Camddwr o ardal Lledrod.
Agorwyd y noson gan Barti Camddwr, gan ddechrau gyda Hiraeth y Cymro ac yn canu rhai o’u hen ffefrynnau yn cynnwys caneuon Dafydd Iwan ac amrywiaeth o alawon gwerin, gyda John Glant yn serennu fel arfer, wrth gwrs – “Bobol annwyl, choeliech chi byth!” Cafwyd deuawd alaw werin gan Efan a Dafydd. Yna daeth tro Clive i ddiddanu yn canu ei ganeuon poblogaidd ac yn rhannu ambell i stori a jôc.
Tynnwyd raffl yn ystod hanner amser gyda gwobrau ardderchog ar gael a chyfle i bawb fynd i’r bar. Yna daeth cyfle i barti Camddwr ganu eto a gorffennwyd gydag Efan yn canu Unwaith Eto Nghymru Annwyl gyda’r parti a’r gynulleidfa yn ymuno yn y gytgan. Gwahoddwyd Clive lan i ganu gyda’r parti wedyn a chafwyd fersiwn hyfryd o Hawl i Fyw gan Dafydd Iwan. Wrth i aelodau’r parti ddechrau ymadael i fynd adref roedd Clive yn dal i ganu a diddanu, a’r storiâu a jôcs yn mynd yn fwy lliwgar wrth i’r noswaith fynd ymlaen.
Mae’n saff i ddweud, felly fod pawb wedi joio mas draw!