Chwant gêm o Hoci?

Ewch i chwilio’ch ffyn hoci a dewch i fwynhau gêm gyfeillgar

gan Fflur Lawlor
1783D010-A4F8-468E-80D6
B331F39D-3733-460B-A54F
BA6D5D88-ECEB-474E-A003

Mae tymor hoci 2022/23 ar fin ailddechrau ac mae Clwb Hoci Caron yn cynnal gêm gyfeillgar rhwng hen chwaraewyr, chwaraewyr presennol ac unrhyw rhai newydd sydd am ymuno ar ddydd Sadwrn 17eg am 2pm ar Gaeau Chwarae Ysgol Henry Richard.

Mae’r Clwb, a sefydlwyd yn 1976, ar hyn o bryd yn chwarae yn y Gynghrair Datblygu De Orllewin ac yn chwarae eu gemau cartref ar yr ‘astro turf’ yn Llambed ac yn ymarfer bob nos Fawrth am 6.30yh yn Llambed. Mae ganddyn nhw un Tîm Merched Hŷn a thimau cymysg iau dan 14 a 12.

Felly, os ydych chi wedi chwarae i’r Clwb yn y gorffennol, neu’n edrych i ddechrau chwarae, plîs dewch draw ar yr 17eg.  Bydd noson gymdeithasol i ddilyn hefyd yng Nghlwb Rygbi Tregaron.

Yn ogystal â hyn, mae’r clwb yn chwilio am noddwyr ar gyfer y tymor i ddod. Os oes gennych ddiddordeb mewn noddi cysylltwch â’r Clwb trwy Facebook neu Instagram, manylion isod.

Swyddogion y Clwb am y tymor 2022/23 yw –
Capten – Gwenno Dark

Is-gapteniaid – Alaw James / Lleucu Williams

Trysorydd – Caryl Jones

Ysgrifennydd – Ffion Williams

Swyddog Diogelu – Carys Jones

Dilynwch y Clwb ar Facebook – Clwb Hoci Caron / Instagram – clwb.hoci.caron