Celfyddydau gweledol lleol ar y maes

Pobl creadigol lleol ar faes yr Eisteddfod

gan Gwenllian Beynon
Marian a Vicky

Marian a Vicky

Marian Haf yn paratoi

Marian Haf yn paratoi

Print gan John Habron-James o ddosbarth Meistr Marian

Print gan John Habron-James o ddosbarth Meistr Marian

Er Dy Les Di

Er Dy Les Di

Sinsir

Sinsir

Eurfryn Lewis

Eurfryn Lewis

99714A8B-4D45-4041-91B7
Gwawr Yim Jones

Gwawr Yim Jones

Glesni Haf

Glesni Haf

Anrhegaron

Anrhegaron

Mary Lloyd Jones

Mary Lloyd Jones

Ogwyn Davies

Ogwyn Davies

Gweithdy Cwilt papur gyda Gwenllian Beynon

Gweithdy Cwilt papur gyda Gwenllian Beynon

Mae wedi bod yn braf dal lan gyda phobl leol ar Faes yr Eisteddfod yn Artisan, yn y lle celf ac ar y maes. Rwyf wedi fy syfrdanu gyda nifer o fusnesau bach sydd â phresenoldeb ar faes yr Eisteddfod yn Nhregaron.

I ddechrau yn y Lle Celf gwelir gweithiau gan artistiaid adnabyddus yr ardal sef Ogwyn Davies, yn wreiddiol o Gwm Tawe ond gwnaeth ymgartrefu yn Nhregaron pan ddaeth i ddysgu Celf a chrefft yno yn y 50au am weddill ei oes. Mae 2 darn o waith ar y waliau yn cynnig blas o’r hyn sydd i’w gweld yng Nghanolfan y Celfyddydau Aberystwyth. Yr artist arall yn y cyntedd yw Mary Lloyd Jones sydd yn dod o ardal Cwmystwyth/ Pontarfynach ond wedi byw yn Aberystwyth ers sbel. Mae 2 darn o waith mawr lliwgar i weld.

Mae wedi bod yn braf dal i fyny gyda’r artistiaid a gweithwyr eraill sydd â stondinau ar y maes. Dydd Llun roedd Marian Haf o Ffair Rhos wrthi yn cynnal dosbarth meistr yn y Lle Celf, yn hwyrach yn y dydd daeth u’n o’r mynychwyr, John Habron-James, dod i weithdy gyda fi a gwnes dynnu llun o’i waith.

Mae gan Marian Stondin yn Artisan mae’n siario gyda Vicky Jones o Swyddffynnon ond sydd yn byw yn Aberystwyth, mae Vicky yn gwneud gemwaith a Marian yn gwneud Printiau, ac mae gwerth gweld ei gweithiau nhw. Mae’r ddwy wrth eu boddau yn gweithio yn yr Eisteddfod eleni a bod mor agos i gartref.

Hefyd yn artisan mae gan Sinsir stondin sydd yn gwerthu deunyddiau gofal croen naturiol ac organig.

Y stondin arall sydd â chyswllt lleol yw Er Dy Les Di cwmni sydd yn cynnig adnoddau Iechyd a Lles i oedolion, plant ac i ddisgyblion ysgol.

Ceir yn ogystal peintiadau Gwawr Yim Jones.

Ges hwyl yn dal i fyny gydag Eurfyl sydd yn wreiddiol o Dregaron ond yn byw ac yn athro yn y de. Mae Eurfyl wedi cael llawer o hwyl wrth aros gyda’i fam a pheintio tua 5 murlun yn y dref wrth baratoi am yr eisteddfod. Yn y gweithiau ar y waliau mae Eurfyl yn cyflwyno cymeriadau a thirluniau adnabyddus i ni yn yr ardal ac yng nghanol ei stondin roedd portread o’i dad.

Mae nifer arall o artistiaid o ardal Ceredigion yn Artistiaid sef Llio James, a Lowri Davies (cyswllt ag Aberystwyth)

Ar y maes mae nifer fawr o stondinau â chyswllt leol fel Lizzy Spikes a Siop Inc ond gwnes ddal i fyny gyda Glesni Haf o Lanfihangel y Creuddyd a’i stondin yn llawn pethau i’r cartref ac i’w gwisgo wedi eu gwneud allan o garthenni Cymreig, hefyd mae Anrhegaron a stondin ar y maes ac yn y siop yn y dref.

Mae wir yn wych gweld nifer o fusnesau bach lleol yn llwyddo.