Casglu gwastraff Ceredigion.

Neges am gasglu sbwriel.

Cerith Evans
gan Cerith Evans
6D7AE7BE-0E2F-4DFE-BB42

Gan fydd llawer o pobol yn ymweld â Thregaron yn ystod wythnos yr Eisteddfod Genedlaethol mae Cyngor Sir Ceredigion wedi dweud,

“ Gwneir pob ymdrech i gynnal gwasanaethau casglu gwastraff yng Ngheredigion yn ystod wythnos Eisteddfod Genedlaethol Cymru, ond oherwydd y cynnydd mewn traffig o gwmpas Tregaron, bydd rhai newidiadau lleol.

Byddwn yn cysylltu’n uniongyrchol â’r cartrefi yr effeithir arnynt. Os na fyddwn yn cysylltu â chi, cyflwynwch eich gwastraff yn ôl yr arfer.”

Mae yn bwysig eich bod yn edrych i weld os rydych wedi derbyn llythyr gan y Cyngor Sir fel eich bod yn gwybod os oes newid i gasglu sbwriel yn eich ardal chi.

Mae y Cyngor Sir yn gobeithio y bydd popeth nôl i normal ar ôl i’r Eisteddfod orffen. Os nad ydy’ch sbwriel yn cael eu casglu o fewn yr amser, mae’n bwysig eich bod chi yn cysylltu efo swyddfa Cyngor Sir Ceredigion trwy eu ffonio ar 01545 570881. Os nad rydych wedi derbyn llythyr gan Cyngor Sir Ceredigion mae hyn yn golygu bydd eich sbwriel yn cael eu casglu yn ôl yr arfer.

Cofiwch wneud yn siŵr nad ydych chi ddim yn parcio eich ceir mewn lle y bydd yn blocio y ffordd ar gyfer y cerbydau casglu gwastarff. Bydd angen digon o le i ddod trwyddo.

Os ydych angen fwy o wybodaeth am amseroedd casglu, ewch i wefan Cyngor Sir Ceredigion wefan isod-

www.ceredigion.gov.uk/preswyliwr/biniau-ac-ailgylchu/dyddiadau-casgliadau-ailgylchu-a-biniau/aflonyddwch-gwastraff/