Cartref newydd i Gofebion Rhyfel Tregaron

Ail-gysegru’r placiau sy’n cofio am filwyr yn Ysgol Henry Richard.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Ifor ap Glyn yn ateb cwestiynau’r disgyblion.

Pawb yn grando’n astud ar Ifor ap Glyn yn sôn am Dafydd Jones, Wern Isaf.

Disgyblion blwyddyn 3 a 4 yn canu ‘Mae Gennym Hawliau.’

Camera S4C yn ffilmio Harri Evans yn cyfeilio i ddisgyblion blwyddyn 3 a 4.

Ela, Gwenno, Mabli a Lili’n canu.

Ar Ddiwrnod y Cofio, ail-gysegrwyd y cofebion rhyfel yn Ysgol Henry Richard. Cofebion yw’r rhain sy’n cofio am y cyn-ddisgyblion o Ysgol Tregaron a gollodd eu bywydau yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd.

Arferai’r cofebion fod ar wal yr Hen Lyfrgell yn yr Hen Ysgol. Yn amlwg ar ôl gwerthu’r adeilad, rhaid oedd darganfod cartref newydd, diogel i’r placiau. Pa le gwell i’w gosod nag ar y wal yng nghefn neuadd Ysgol Henry Richard i’w diogelu ar gyfer cenedlaethau’r  dyfodol?

Agorwyd y digwyddiad yn swyddogol gan Bennaeth yr Ysgol, Mr Dorian Pugh a Chadeirydd y Llywodraethwyr, Rhodri Evans. Ail-gysegrwyd y cofebion gan Y Canon Eileen Davies, gyda’r Parchedig Carwyn Arthur yn gweddïo.

Cymerodd ddisgyblion yr ysgol ran flaenllaw hefyd, gyda disgyblion blwyddyn 3 a 4 yn canu ‘Mae Gennym Hawliau’ ac Ela, Mabli, Gwenno a Lili yn canu ‘Haleliwia’ yn swynol iawn. Rhai o brif swyddogion yr ysgol oedd yn gyfrifol am gyflwyno Emyn yr Ysgol a darllen enwau’r bechgyn a gollodd eu bywydau cyn y ddwy funud o dawelwch am 11 o’r gloch.

Cafwyd anerchiad diddorol ac arbennig iawn gan Y Prifardd a’r hanesydd Ifor ap Glyn. Trafododd hanes y bachgen lleol, Dafydd Jones, Wern Isaf, Llanio sydd â’i enw ar y gofeb. Aeth i’r rhyfel yn Ffrainc ond lladdwyd yng Nghoedwig Mametz yn 1916. Mae Ifor ap Glyn wedi bod yn ymchwilio i’w hanes ers degawd ac ar fin cyhoeddi llyfr amdano.

Trafodwyd y casgliad unigryw a gwerthfawr o lythyron sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol wrth Dafydd. Mae’r casgliad o 60 o lythyron yn cofnodi hanes cynnar y Rhyfel a’i roi mewn cyd-destun lleol i ni yn Nhregaron. Mae’n bosib dod i adnabod Dafydd yn eithaf da drwy’r llythyron amrywiol.

Un enghraifft o’r ffordd mae’n rhoi’r Rhyfel mewn cyd-destun lleol iawn yw’r ffordd mae Dafydd yn disgrifio’r ffosydd yn wlyb fel “Ca’ Garw,” sef un o gaeau ei fferm, Wern Isaf. Holodd Ifor ap Glyn i’r ffermwr sy’n ffermio Ca’ Garw heddiw, ac mae’n debyg bod y cae yma wrth yr afon Teifi a bod yn gae gwlyb ofnadwy!

Yn dilyn anerchiad Ifor ap Glyn, cafodd ddisgyblion Y Cyngor Ysgol holi cwestiynau pellach iddo am ei ymchwil a’i wybodaeth am Dafydd Jones. Cafodd gryn effaith ar y disgyblion, gyda’r criw yn ysu i holi cwestiynau a deall mwy am Dafydd ond hefyd am y broses o gasglu’r wybodaeth ac ymchwilio.

Mae’n bwysig gallu deall cyd-destun y placiau a pherchnogi hanes lleol, pwysig fel hyn. Yn ei lythyron, mae’n cyfeirio at bobl, ffermydd a phob math hanesion lleol sy’n hynod o ddiddorol.

Yn ei anerchiad, dywedodd Ifor ap Glyn y dylen ni “ddechrau wrth ein traed” wrth ystyried ein hanes. Mae’n wir i ddweud bod dysgu am hanes ac aberth un dyn sydd â’i enw ar y gofeb yn rhoi’r holl beth mewn cyd-destun byw i ni. Mae ein diolch ni’n fawr i Dafydd Jones a’i lythyron am gofnodi a phortreadu bywyd milwr ifanc o’r ardal yn y Rhyfel Mawr.

Mae’r sesiwn yn sicr wedi ennyn diddordeb y disgyblion a’u hannog i ddysgu mwy. Mae’r ysgol yn bwriadu datblygu Uned o waith ar hanes Dafydd Jones ar gyfer pasio’r wybodaeth ymlaen i’r disgyblion am flynyddoedd i ddod.

Heddiw, cofiwn am aberth fechgyn ardal Tregaron, a thrwy hyn, cofiwn am y miloedd ar filoedd a gollodd eu bywydau ar draws y byd.

“Nerth cof, cyfandir o gofio.” (Ifor ap Glyn)