Carnifal Bont

Llawn Hwyl a sbri

gan Gwenllian Beynon
Gwenno-ai-gosgordd

Gwenno a’i gosgordd

ifan

Ifan Jones Evans

carnifal-cwin

Gwenno Y Carnifal Cwin

292521411_1314270489400384

Sioned Fflur

dressed-to-kill-

Jen Ebeneser “Dressed to Kill”

LLaeth-Bont

Ar ddydd Sadwrn 9fed o Orffennaf roedd Carnifal Bont ym Mhontrhydfendigaid yn ôl yn llawn hwyl a sbri. Roedd digon o wisgo lan a gorymdaith, gan gynnwys fflotiau yn teithio trwy’r pentref i’r Pafiliwn, ar ddiwrnod o heulwen braf.

Cafodd y pentref ei addurno gyda baneri amryliw a chriw da, niferus o bob oedran mewn gwisgoedd ffansi.

Meddai Jên Ebeneser, “roedd fflôt y Frenhines yn hardd drosben a’r frenhines a’i gosgordd Mali, Elizabeth, Harley a Rowan yn edrych yn hyfryd.”

Llywydd y dydd, a hithau hefyd yn feirniad, oedd Sioned Fflur ac yn ôl Pwyllgor y Carnifal fe ‘wnaeth ei gwaith yn rhagorol.’

Arweinydd y carnifal oedd Ifan Jones Evans, amaethwr a chyflwynydd radio a theledu sydd wrth gwrs yn byw yn lleol. Yn ôl ei arfer roedd e’n benigamp ac yn amlwg yn mwynhau ei hun.

“Bu Cystadlu brwd, a phleser oedd gweld y plant yn arbennig yn mwynhau màs draw.”

Roedd yn braf gweld y fflotiau yn mynd trwy’r pentref gyda Barti Ddu, Môr ladron a Chastell meithrin.

Daeth y carnifal â phobl o ar draws y pentref, gyda llawer o ddathlu, yn ôl at ei gilydd o dan arweiniad pwyllgor gweithgar y Carnifal a diolch iddynt am eu gwaith wrth drefnu.

Mae Bont nawr yn edrych ymlaen at garnifal 2023 ond mae llwyth o bethau eraill lleol ar y gweill.