Capeli yn danfon bocsys i Wcrain

Gofalaeth Caron

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
thumbnail_image0

Diolch i bawb!

Bu aelodau Capeli Gofalaeth Caron, dan arweiniad y Parch Carwyn Arthur,  yn llanw bocsys ‘Operation Christmas Child’ i’w danfon i Wcrain fel anrhegion i blant a ieuenctid.

Ymgyrch y Samariad Trugarog  yw hon  a llanwyd 71  bocs gan aelodau’r capeli.

Diolch i Evan Jones, aelod yng Nghapel Bethesda, Llanddewi Brefi, am fynd â’r parseli i’r ganolfan gasglu yn Aberystwyth.

Diolch arbennig i bawb am eu hymdrech. Gobeithio daw’r bocsys â gwên i wynebau plant Wcrain a gwneud gwahaniaeth mewn byd o ofid.