Calennig Caron360

Blwyddyn newydd dda!

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Mae nifer o blant yr ardal wedi bod allan yn canu calennig y bore ’ma neu wedi canu yn eu cartrefi i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi gyd.

18:25

Betsan a Trystan Lloyd-Jones yn joio canu calennig bore ma. 

14:49

Trefor a Leisa’n canu yn Llanddewi Brefi. Y ddau wedi canu yng Ngorsgoch cyn dod lan i Fro Caron. 

14:44

Jac Defi gyda’i dad Emyr Lloyd yn casglu calennig. 

14:33

Grug, Gwion, Ifan a Magi wedi bod yn brysur. Wedi ymweld â thua 18 cartref ac wedi derbyn croeso cynnes ym mhobman. Roedd pawb nor falch o’u gweld. 

14:28

Arthur a Gwen yn canu penillion calennig teuluol wedi eu hysgrifennu gan eu hen fam-gu, Gloria Evans.