Cadi yn Yr Arglwydd Rhys

Bydd Cadi yn perfformio yn Ystrad Fflur adeg y ’Steddfod

gan Gwenllian Beynon
Cadi Beaufort

Cadi Beaufort

Poster y ddrama

Poster y ddrama

Cadi yn y coch yn ymarfer

Cadi yn y coch yn ymarfer

Ymarfer

Ymarfer

Ymarfer

Ymarfer

Ymarfer

Ymarfer

Dewch â’ch gwledd, eich medd a’ch sedd

Dewch â’ch gwledd, eich medd a’ch sedd

Cadi Beaufort (Jones) o Ffair Rhos ond yn byw yng Nghaerdydd, yw un o brif gymeriadau’r ddrama Yr Arglwydd Rhys am Rhys ap Gruffydd, sydd i’w gweld yn Abaty Ystrad Fflur ar Awst 3 6:30yh, yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol

Mae Cadi yn gyn-disgybl o ysgol Gynradd Pontrhydfendigaid, Ysgol Uwchradd Tregaron (Ysgol Henry Richard) ac Ysgol Llambed mae ganddi BA ac MA mewn Perfformio o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.

Meddai Cadi

Sioe Gomedi i bawb yw sioe Yr Arglwydd Rhys. Dwi’n chwarae sawl cymeriad o fewn y sioe, Gwenllian, Cogydd, Crythor a llawer mwy!

Bydd Ystrad Fflur yn le anhygoel i weld y ddrama hon, nid yn unig gan fod yr olygfeydd o amgylch olion yr abaty yn hynafol ac anhygoel, ond hefyd mae’n lleoliad ble mae rhai o ddisgynyddion Yr Arglwydd Rhys wedi eu claddu.

Mae Ystrad Fflur yn lleoliad pwysig iawn i Ffair Rhos a’r ardal y magwyd Cadi ynddi ond hefyd mae’n le cartrefol iawn, lle sydd yn cael ei ddefnyddio gan yr ysgol, a lle mae’r gymuned yn ei ddefnyddio yn achlysurol neu’n ddyddiol, rydym yn mynd am dro yno. Ac yn wir yn ôl y sôn roedd Ystrad Fflur yn agos iawn i galon Yr Arglwydd Rhys.

Meddai Cadi

Cyn gwneud y sioe doeddwn i ddim yn ymwybodol am stori’r Arglwydd Rhys, ac felly wrth ddarllen mwy am ei hanes des i i wybod am ei gysylltiad gydag Ystrad Fflur!

Roedd Yr Arglwydd Rhys yn noddwr i’r Abaty ac o dan ei nawdd ef, yn y 12fed ganrif, gwnaeth y mynachod a’r abaty ffynnu, cewch fwy o wybodaeth am hanes y Deheubarth a’r tywysogion a gweld y beddau wrth ymweld ag Ystrad Fflur sydd yn uno adeiladau dan ofal CADW.

Yn ôl Llenyddiaeth Cymru

Mae Mewn Cymeriad yn llwyfannu drama newydd sbon i’r teulu am un o arwyr y Deheubarth – Rhys ap Gruffydd. Honnir taw Rhys ap Gruffydd, neu’r Arglwydd Rhys, adeiladodd y castell Cymreig cyntaf o gerrig yng Nghymru, ac yno, yn 1176, cynhaliodd yr Eisteddfod gyntaf erioed.

Drama yn yr awyr agored gan Mewn Cymeriad yw hwn felly ‘Dewch â’ch gwledd, eich medd a’ch sedd.

Comedi dychanol llawn rhialtwch a thensiwn teuluol; colli ac ennill tir; barddoniaeth fydd neb yn deall… ond s’dim ots am hynny achos MI FYDD YNA GADEIRIO! ,… Tra’n cael lot fawr o hwyl, dyma gyfle i’r teulu cyfan ddysgu rhywfaint am un o arwyr y Deheubarth.

Yr awdur a chyfarwyddwr yw Janet Aethwy gyda chaneuon gan Aneirin Karadog a Mei Gwynedd a’r Cast yw Cadi Beaufort, Dyfed Cynan, Sion Emyr, Ffion Glyn.

Yn ô Cadi

Mae ymarferion wedi bod yn lot o hwyl mae’r cast ( Dyfed Cynan, Sion Emyr a Ffion Glyn) wedi bod yn grêt. Dwi’n edrych ymlaen i wneud y perfformiad cynta’ yn Ystrad Fflur cyn teithio o amgylch Cestyll Cymru!

Mae’r ddrama i’w gweld yn Abaty Ystrad Fflur – Awst 3 6:30yh Castell Biwmares – Awst 11 6:30yh Castell Dinbych – Awst 12 6:30yh Castell Cydweli – Awst 18 6:30yh Castell Aberteifi – Awst 19 5:30yh Castell Dinefwr – Awst 20 4yh a thocynnau i’w gael fan hyn Mewn Cymeriad Yr Arglwydd Rhys.

Ewch i gefnogi Cadi, cael llawer o hwyl a hefyd dysgu mwy am yr Arglwydd Rhys mewn lleoliad addas ac anhygoel- Ystrad Fflur.

(Lluniau wth Cadi Beufort ac Mewn Cymeriad Diolch am y defnydd)