Bont yn barod i’r Eisteddfod

Mae Pontrhydfendigaid wedi’i harddu i groesawu Eisteddfod Ceredigion 2022

gan Gwenllian Beynon

Mae Pontrhydfendigaid nawr yn barod i Eisteddfod Ceredigion 2022 a fydd yn Nhregaron ddechrau mis Awst. Buodd criw o bobl allan wythnos diwethaf yn harddu’r pentref yn barod i groesawu’r Eisteddfod, y bobl bydd yn teithio trwyddi neu’r rhai bydd yn ymweld â’r ardal yn ystod wythnos yr Eisteddfod.

Penderfynodd pwyllgor Carnifal y Bont cadw eu baneri nhw i fyny ar draws y pentref ac mae nifer eraill wedi ychwanegu baneri i’w cartrefi yn ogystal.

Y peth mwyaf anhygoel yn y pentref yw cyfraniad aruthrol plant Ysgol Gymunedol Pontrhydfendigaid sydd wedi creu nifer fawr o gylchoedd pren wedi peintio gyda delweddau sydd yn cynrychioli gwahanol agweddau o’r pentref, er enghraifft, Ystrad Fflur, y barcud coch, amaethyddiaeth, pêl-droed ac yn y blaen fel y gwelir yn y lluniau.

Llongyfarchiadau enfawr i’r plant, mae’r peintiadau yn wych ac yn ychwanegu agwedd ddiddorol iawn i’r pentref.

Meddai Angharad Jones ar Facebook Pontrhydfendigaid,

DIOLCH!!  THANK YOU!!

Fel cadeirydd Cyngor Cymuned Pontrhydfendigaid,  hoffwn ddiolch o waelod fy nghalon i bawb wnaeth droi allan neithiwr i harddu’r pentre’ ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Diolch i’r plant  Ysgol Gynradd am yr arwyddion arbennig a hefyd i’r unigolion o’r gymuned a bu yn peintio’r rhai eraill. Diolch i bawb am helpu i roi’r arwyddion i fyny a hefyd yr holl faneri. Mae’r pentre’ wir yn edrych yn grêt.

DIOLCH!!!

Angharad Jones

Mae Bont 5 milltir o faes yr Eisteddfod ac os ydych yn ymweld â’r ardal fe gewch groeso yma, ac fel mae’r plant yn dweud yn eu peintiad JOIWCH!