Bois Lledrod ar y brig yn Llanelwedd

Llwyddiant Gethin a Steffan o Glwb CFFI Lledrod

gan Efan Williams
b

Mae dau o aelodau brwdfrydig a gweithgar o Glwb Ffermwyr Ifanc Lledrod wedi bod yn llwyddiannus wrth gynrychioli Ceredigion yn y Ffair Aeaf eleni.

Roedd Gethin Davies, Brennan yn fuddugol yn y gystadleuaeth Barnu Carcas Ŵyn (rhesymau yn Gymraeg) 16 oed neu iau. Cipiodd Gethin hefyd y wobr 1af yn y Gystadleuaeth Prif Gynhyrchydd Ŵyn. Da iawn ti!

Yn fuddugol hefyd oedd Steffan George, Garth Fawr yn y gystadleuaeth Barnu Carcas Ŵyn (rhesymau yn Gymraeg) 18 oed neu iau.

Daeth tîm Ceredigion i’r brig hefyd.

Da iawn chi bois, rydyn ni drigolion Lledrod a’r ardal yn falch iawn o’ch llwyddiant. Daliwch ati!