Beirdd Ysgol Henry Richard

Cyfweliad gydag enillwyr Cadair a Thlws Eisteddfod yr Ysgol.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Gwenno Humphreys sy’n cyfweld â Mari Herberts a Mossy Murton, enillwyr Cadair a Thlws Eisteddfod Ysgol Henry Richard.

Mari Herberts o flwyddyn 11 oedd enillydd y Gadair am ei cherdd Gymraeg a Mossy Murton o flwyddyn 10 oedd enillydd y Tlws Saesneg.

Gwyliwch y cyfweliad i ddysgu mwy am y broses o ysgrifennu’r cerddi a’r profiad o ennill prif wobrau llenyddol yr ysgol.

Dyma’r cerddi-

Byddardod

Siapau amrywiol, gofalus,-
yr unig eiriau sy’n bodoli i mi.
A thrwy wylio dwylo diddorol, crefftus,
caf siawns i rannu fy stori.

Estyn allan, yn lle gadael allan,
i mi, dyna effaith y dwylo.
Cael tro i ymuno a chymryd rhan
yw’r teimlad sy’n fy nghysuro.

Creulondeb fy myddardod
byth yn terfynu fy ngallu,
wrth gyfnewid y poendod
am ysbrydoliaeth i ymdrechu.

Ac er bod yr iaith yn ddistaw,
y siarad sydd yn glir.
Y grefft o gysylltu o law i law
mewn tawelwch, perffaith, pur.

‘Cennin Pedr’ – Mari Herberts, Teifi

 

A place of opposites 

 

The sun sees laughter,
The sun sees smiles,
The sun sees joyful picnics in July.
All these things are what it sees
From its scorching roost above the trees.

Until…

A cloud of storm blocks its view
Chasing away the laughter
The smiles
The sunny golden hue

Pelting down droplets of cold, furious water
Speeding,
Twirling,
Diving through its short life
Before merging with a million like it
To form a savage, fuming tyrant

The river pushes,
The river barges.
The river calms,
The river wanders.

And finally, it meets the sea

On its sandy shores they play
Under the sun.
Beside the water.
Two opposites collided
To bring smiles and laughter.

‘Fish and Chips’ – Mossy Murton, Teifi

Llongyfarchiadau i’r ddwy.
Gwenno ei hun oedd yn ail yng nghystadleuaeth y Gadair gyda Begw Ifans yn drydydd.

Mari Herberts oedd yn ail yn y Darian Saesneg hefyd gyda Mary Holroyd yn drydydd.