Arddangosfa Gelf Marian Haf

Galeri Caernarfon

gan Gwenllian Beynon
286898405_561546528678405Marian Haf

Marian Haf a Leigh Sinclar

286910200_277344424555388Marian Haf

Gwaith gosod mewn lleoliad penodol yn Galeri (Caernarfon)

287023036_432959782162354Marian Haf
286936620_417904986892316Marian Haf

Yr arddangosfa

286990310_361719982716556Marian Haf
Marian_1

Darn o Waith Marian Haf

Marian-2Marian Haf

Darn o waith Marian Haf

Leigh-2Marian Haf

Darn o waith Leigh Sinclar

Leigh-1Marian Haf

Darn o waith Leigh Sinclar

Mae’r arlunydd  Marian Haf sydd yn byw yn ardal Pontrhydfendigaid/ Ffair Rhos yn arddangos gwaith Celf yn Galeri Caernarfon tan 23 o Orffennaf. Mae yn arddangos ar y cyd a Leigh Sinclair ac meddai Marian

ni ’di bod yn frindie ers cwrdd pan o ni ar foundation yng Nghaerfyrddyn

Mae’r cyrsiau Sylfaen mewn Celf a Dylunio fel yr un yng Nghaerfyrddin, ble gwnaeth Marian a Leigh cwrdd yn gyntaf, yn ffordd wych o ddatblygu sgiliau mewn Celf a dylunio cyn mynd ymlaen i wneud gradd ac i arbenigo mewn pwnc mwy Penodol, ar gwrs sylfaen mae posibiliadau o arbrofi mewn nifer fawr o bynciau celfyddydau gweledol. Mae llawer sydd wedi astudio ar cyrsiau sylfaen yn honni bod y flwyddyn o astudio ar gwrs sylfaen yn un o flynyddoedd gorau mewn gyrfa celf- dw i yn un o rain.

Yn yr arddangosfa Y Llanw Distaw gwelir Leigh a Marian, nid yn unig yn arddangos gweithiau celf unigol ar welydd yr oriel ond gwelir hefyd y ddau wedi cyd creu gwaith gosod yn benodol i’r lleoliad, mewn furff murlun. Ceir fwy o wybodaeth am yr arddangosfa yn y Safle Celf ar wefan Galeri Caernarfon.

Leigh Sinclair + Marian Haf

Y Llanw Distaw
11/06/22 – 23/07/22

Mae’r arfordir i lawer yn lleoliad i archwilio ac i ddianc. Gyda hyn mewn golwg mae Leigh Sinclair a Marian Haf wedi defnyddio glan y môr fel cymorth i wthio harferion nhw mewn ffyrdd cydweithredol chwareus.

Mae’r proses arbrofi wedi bod yn sail i’r curadu yn ogystal â chwblhau’r gwaith. Darparodd Galeri’r rhyddid iddynt i dorri’n rhydd o ‘hongian’ arferol, traddodiadol. Gan ganiatáu Leigh a Marian i ddod ag elfen o’r chwareusrwydd, i’w fwynhau gan ymwelwyr yn yr un goleuni

Os ydych am fwy o wybodaeth am waith Leigh ewch i’w Instagram @leigh_sinclair ac i Instagram Marian @marianhaf.

Ar eu cyfrifau Instagram mae Marian a Leigh yn sôn yn fras am eu ffurf o greu a hefyd ceir ffilmiau byrion sydd yn dangos elfen o’u broses o gyd creu.

Os byddwch yn ardal Caernarfon mae’r arddangosfa i’w gweld tan 23 o Orffennaf.