Ail agor drysau’r Ysgol Sul!

Ysgol Sul Capel Bwlchgwynt yn ail-ddechrau!

Ffion Medi
gan Ffion Medi

Ar ôl cyfnod o ddwy flynedd mi fydd Ysgol Sul Capel Bwlchgwynt, Tregaron yn cwrdd ar y Suliau unwaith eto! Mae wedi bod yn gyfnod ansicr â’r plant yn methu cwrdd oherwydd y pandemig ond braf yw gweld yr Ysgol yn ailgychwyn eto dydd Sul, 2il Hydref am 2.00 o’r gloch yn y Festri.

Dros gyfnod yr haf, cafodd aelodau’r Ysgol Sul gyfle i gwrdd yn yr heulwen braf i greu murlun gyda’r artist lleol, Gwawr Yim-Jones i nodi bod yr Eisteddfod Genedlaethol yn dod i Dregaron. Gallwch weld y murlun arbennig hwn ger gatiau’r mart yn Nhregaron, gyferbyn a’r cae chwarae.

Bydd croeso cynnes yn disgwyl y plant ar ôl dwy flynedd hir ac anodd – dewch yn llu i ddysgu, cymdeithasu a chael lot o hwyl a sbri!

Os am fwy o wybodaeth cysylltwch â Catherine Hughes (01974 298700)