Arolwg da iawn i Gylch Meithrin Tregaron

“Plant hapus” yn cael “gofal o ansawdd da yn gyson.”

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
cylch-tregaron

Cyn yr haf, derbyniodd Cylch Meithrin Tregaron arolwg gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Mae’n bleser darllen yr adroddiad sy’n canmol y staff, y rhai sy’n gyfrifol ac wrth gwrs, y plant.

Meddai’r adroddiad, mae’r plant “wedi setlo am eu bod wedi meithrin cydberthnasau cadarnhaol â’r staff. Mae’r plant yn ddysgwyr gweithgar a chwilfrydig, ac maent yn ymddiddori yn eu gweithgareddau sy’n seiliedig ar chwarae, ac yn llawn cyffro yn eu cylch. Mae’r staff gofal yn adnabod y plant yn dda.”

Mae’r adroddiad wedi’i rannu i bedair adran: Llesiant; Gofal a Datblygiad; Yr Amgylchedd; Arwain a Rheoli, ac mae’r Cylch yn derbyn sylwadau cadarnhaol iawn ym mhob un o’r meysydd.

“Clywsom y plant yn mwynhau canu caneuon gyda’r staff. Dywedodd y rhieni wrthym fod eu plant yn mwynhau mynd i’r lleoliad yn fawr iawn. Mae gan y plant ymdeimlad o berthyn; er enghraifft, mae ardal bersonol gan bob un ohonynt er mwyn storio eu cotiau, eu bagiau a’u gwaith. Roedd yn bleser gweld y plant yn chwarae gyda’r anifeiliaid a’r dinosoriaid bach, gan drafod eu chwarae a chan ganolbwyntio am gyfnod o amser wrth iddynt eu trefnu a’u haildrefnu.”

Rhai o’r ansoddeiriau sy’n cael eu defnyddio yn yr adroddiad yw: “hapus,” “cartrefol,” “gweithgar” a “diogel,” sef yr union bethau sy’n flaenoriaeth i unrhyw riant.

Llongyfarchiadau i’r arweinydd, Miss Gayle a’i thîm am redeg Cylch Meithrin o safon.

Os hoffech fwy o wybodaeth am Gylch Meithrin Tregaron, cysylltwch â Gayle Pollak-Mills, Arweinydd y Cylch ar 07504373631 neu cylchmeithrintregaron@gmail.com neu os am ddarllen yr adroddiad llawn, cliciwch yma.