Agor Adeilad newydd Cylch Tregaron

Y pwll nofio ar ei newydd wedd.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Y plant wrth eu bodd yn yr adeilad newydd.

received_654008389367169-1

Teganau newydd.

received_615917189484616-1
received_669706937533397-1
received_643562850304969-1

Agorwyd adeilad newydd y Cylch Meithrin i blant Tregaron yr wythnos hon. (yr hen bwll nofio.) Dyma beth oedd cyffro!

Ar ôl misoedd o waith adeiladu, cynllunio, trefnu, codi arian, sortio ac yna symud, roedd yr adeilad yn barod unwaith eto i groesawu ieuenctid adral Tregaron.

Mae’r adeilad wedi’i rannu i ddwy ystafell fawr – un adeilad ar gyfer y Cylch Meithrin ac un adeilad ar gyfer Ysgol Henry Richard.

Gwyliwch y fideo er mwyn busnesa tu fewn i’r Cylch Meithrin.

Diolch i bawb sydd wedi gwneud hyn yn bosib i’r plant.

Os hoffech fwy o wybodaeth am Gylch Meithrin Tregaron, cysylltwch â Gayle Pollak-Mills, Arweinydd y Cylch ar 07504373631 neu cylchmeithrintregaron@gmail.com

Os am ddarllen fwy o straeon am y Cylch Meithrin, cliciwch ar y linciau isod:

Arolwg da iawn i Gylch Meithrin Tregaron

O Gantîn i bwll nofio i Gylch Meithrin

Cylch Meithrin Tregaron yn diolch i Miss Eleri