Aduniad Ysgol Uwchradd Tregaron ar Faes yr Eisteddfod

Cannoedd yn mynychu yr aduniad

gan Fflur Lawlor
00AFC2D9-9D5E-45E3-AC68

Hyfryd gweld gymaint o gynddisgyblion lleol ac o bant o bob oedran wedi troi allan i’r Aduniad.

Roedd dros 300 yna a dim ond lle i 120 eistedd fewn. Siom oedd i ddechrau na fyddai pawb yn gallu bod mewn na gallu clywed, ac y byddai y drysau yn cau. Ond wedi cael prif stiward a Emlyn o cwmni diogelwch fe gafwyd y seinydd tu allan.

Croesawodd Joan Evans bawb, canwyd cãn yr ysgol, araith ddiddorol a digri am ei ddyddiau yn ysgol gan Lyn Ebenezer a diolchiadau gan Odwyn Llangybi. Buodd nifer yn siarad a dal lan am sbel ar ol yr Aduniad tu allan ar y maes.

Diolch i Glenys Morgan am y lluniau ar hanes.