Ers rhai misoedd mae’r farchnad dai leol wedi gweld cynnydd mawr, wrth i fwy a mwy o bobl, mae’n ymddengys, fod eisiau ‘byw yn y wlad’. Mae graddau llog a chyfraddau treth ar eiddo isel yn sicr yn ddylanwad, ond heb os, y ffactor fwyaf yw dymuniad pobl i ddianc o’r trefi a’r dinasoedd yn sgil effaith pandemig COVID-19.
“Mae sefyllfa’r farchnad dai yn ardal Tregaron yn debyg i’r sefyllfa drwy holl gymunedau gwledig Gorllewin Cymru ar hyn o bryd” meddai Rhys ap Dylan, arwerthwr tai gyda chwmni Morgan and Davies yn Aberaeron “Mae galw aruthrol ac mae’n gyfnod prysur iawn i arwerthwyr tai.”
Mae nifer o’r tai sydd wedi dod ar y farchnad yn ardal Tregaron yn ddiweddar wedi cael eu gwerthu mewn amser byr, ac yn aml am fwy na’r pris gwreiddiol. Un tŷ nodedig sydd ar werth ar hyn o bryd yw hen Ficerdi Tregaron ar ffordd Blaencaron.
“Mae’r Ficerdi o fewn tua erw o dir ac yn ddatblygiad gyda photensial mawr” meddai Rhys. “Mae lot fawr o ddiddordeb wedi bod hyd yma, ac mae’r eiddo yn debygol o werthu’n dda iawn. Ni’n falch o’r diddordeb a’r ymateb, bobol lleol sydd yn bennaf ishe sicrhau yr eiddo”
Aeth Caron360 at Cyril Evans i gael fwy o hanes yr hen Ficerdi:
“Yn y manylion gwerthu, dywedir fod y tŷ yn dyddio o tua c.1850, ond wrth gwrs mae’r gragen allanol yn cuddio un o gartrefi hanesyddol Tregaron, sy’n dyddio yn ôl i o leiaf yr ail ganrif ar bymtheg. Wrth edrych ar y tŷ o’r tu allan heddiw, fe allai rhywun gredu ei fod yn dyddio o’r 1930au, ond yn ystod y cyfnod yma fe drawsnewidiwyd yr adeilad a’i ‘wella’ yn ôl safonau’r cyfnod. Cafodd y simneiau cerrig eu dymchwel a’u hail-adeiladu mewn brics. Roedd y simneiau gwreiddiol â drip stones arnynt, sy’n arwydd pendant fod y tŷ ar un adeg wedi’i doi â gwellt. Fe dynnwyd y ffenestri blaen allan, a’u cyfnewid am bay windows y cyfnod, gan hefyd orchuddio’r muriau cerrig gwyngalch gyda phlaster. Rhwygwyd yr aelwydydd marmor allan a’u cyfnewid am rhai pren – sydd hefyd erbyn heddiw wedi diflannu. O leiaf mae’r hen drawst derw wedi goroesi ac yn dal yn rhan o fantell y simnai fawr.
Tynnwyd y ffotograff yma o’r ficerdy yn 1902. Anodd dweud beth oedd yr achlysur, na phwy mewn gwirionedd sydd ynddo, ond yn ôl Cyfrifiad 1901, roedd Parchedig Daniel Morgan Davies (39) yn byw yno gyda’i deulu; Daniel Gordon Davies (11), Charlotte (9), Hilda (5), Herbert (4) gydag Ann Rees, morwyn (30) a Mary Lewis, morwyn (16). Ganed Daniel Morgan ym mhlwyf Gartheli, a’u blant yn Abergwili, Sir Gaerfyrddin. Nodir mai gweddw ydoedd ar y pryd, ond erbyn Cyfrifiad 1911, roedd wedi priodi gyda Rosa Laura Edwina Davies o Aberystwyth (30) yn 1903. Does dim sôn am unrhyw weision yn y tŷ erbyn hyn, ond nodi’r bod John Moss, garddwr (50) o Bolton yn aelod o’r cartref. Mae’n debygol mae’r Parchedig Daniel Morgan Davies sy’n gwisgo’r coler gron 3/4ydd o’r chwith, a’i fab Daniel Gordon ar y dde. Bu nifer o ficeriaid nodedig iawn yn byw yn y tŷ dros y canrifoedd, ac fe fedrai nifer o’r trigolion lleol eu rhestri, ond fe ddylid nodi y bu’r Parch. George Noakes (1924-2008) yn ficer y plwyf o 1959 hyd 1967, gan ei ordeinio yn Esgob Tŷ Ddewi yn 1982”
Pob dymuniad da i berchnogion newydd yr hen Ficerdi ac i holl berchnogion newydd tai yr ardal. Mae’n ardal hyfryd, sy’n barod i groesawu pawb i gyfrannu i’r gymuned.