Serydda yn ardal Tregaron

Dewch i ddarganfod rhyfeddodau’r nos!

gan Dafydd Wyn Morgan
"Llwybr y Sêr" dros flwch teliffôn enwog Nant y Maen, Tregaron

Mae’r adroddiad “Ardaloedd Tawel ac Wybren Dywyll” a gyhoeddwyd yn ddiweddar, yn dangos mor anhygoel yw awyr y nos yng Nghymru. Cafodd ei gomisiynu gan Cyfoeth Naturiol Cymru ac mae’n cadarnhau mai sir Powys (93.1%) yw’r Awdurdod Lleol tywyllaf, gyda thirwedd Mynyddoedd Cambrian (99.0%) yn ail yn unig i Lwyfandir Epynt (99.8%) o ran y diffyg llygredd golau yn awyr y nos.

Cyhoeddodd yr adroddiad hefyd fap wybren dywyll a llygredd golau o Gymru gyda Mynyddoedd Cambrian i’w gweld yn amlwg fel cyrchfan sydd â gwir wybren dywyll gyda’r nos.

Mae’r adroddiad yn atgyfnerthu gwaith diweddar gan Fenter Mynyddoedd Cambrian i sefydlu Llwybr Seryddol Mynyddoedd Cambrian. Mae’r llwybr yn cynnwys naw Safle Darganfod Wybren Dywyll sy’n rhychwantu’r gadwyn o fynyddoedd ar ei hyd, o Goedwig Brechfa a Mynydd Llanllwni yn y de i ardal Tregaron a’r Elenydd hyd at hen gymuned mwyngloddio plwm Dylife a Foel Fadian yn y gogledd.

Mae’n hyfryd i ddarllen yr adroddiad hwn a gweld cadarnhad o ba mor dywyll o le yw Mynyddoedd Cambrian.

‘Dwi’n lwcus iawn cael gweithio gydag amrywiaeth o gymunedau i gynyddu’r ymwybyddiaeth o ba mor bwysig i bobl ac i fywyd gwyllt yw cael llygredd golau isel.

Mae astro-twristiaeth wedi ehangu’n gyflym ers sefydlu’r llwybr seryddol ac mae cymunedau lleol ac ymwelwyr fel ei gilydd yn manteisio i’r eithaf ar wybren dywyll Mynyddoedd Cambrian.

‘Dwi wedi wedi treulio dipyn o’m amser yn tynnu lluniau’r wybren dywyll yn fy milltir sgwâr yn ystod y deuddeg mis diwethaf. ‘Dwi wedi darganfod nifer o leoliadau da i serydda gan gynnwys Pont Einon, Cors Caron a blwch teliffon Nant Y Maen, ar y ffordd fynyddig draw i Abergwesyn.

Beth am fynd ati i ddarganfod yr wybren dywyll a cheisio adnabod sêr, cytsêr, planedau ac ambell i seren wîb! Defyddiwch ‘app’ fel ‘Dark Sky Guide’ neu ‘Stellarium’, a chyn pen dim byddwch yn seryddwr o fri! Pob lwc.

Er mwyn darllen yr adroddiad, ewch at http://bit.ly/AdroddiadWybrenDywyll2021

Am ragor o wybodaeth am Lwybr Seryddol Mynyddoedd Cambrian, ewch at www.cambrianmountainsdarkskies.co.uk 

*Sefydlwyd Llwybr Seryddol Mynyddoedd Cambrian gan Dyfodol Cambrian Futures, sy’n brosiect gan Fenter Mynyddoedd Cambrian, a chafodd ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig, Cyngor Sir Ceredigion, Cyngor Sir Powys a Chyngor Sir Caerfyrddin. Mae’r prosiect yn derbyn cefnogaeth hefyd gan Ymddiriedolaeth Gymunedol Fferm Wynt Cefn Croes, Prifysgol Aberystwyth ac Ymddiriedolaeth Cwm Elan.