Her Rhedeg y Cyfnod Clo

Rhedeg 100 milltir ym mis Ionawr. Move for Mind.

gan Efan Williams

Mae’n deg dweud bod y misoedd hir ers y Cyfnod Clo cyntaf ym mis Mawrth 2020 wedi bod yn heriol iawn ac yn dipyn o hunllef i nifer. Mae cyfyngu wedi bod ar bron bob agwedd o’n bywydau. Rydw i’n ffodus fy mod yn parhau i allu gweithio er nad yw gwaith athrawon yn fêl i gyd ar hyn o bryd chwaith ac mae’r proffesiwn wedi gorfod addasu i ddulliau newydd o ddysgu disgyblion. Ond, rydw i’n dal i weithio a diolch am hynny! 

Yr ergyd fwyaf imi yn bersonol yw’r ergyd gymdeithasol. Fel un sy’n gyfarwydd â bod yn brysur dros ben yn mynd i ganu fan hyn a fan draw, o gyngerdd, i ‘steddfod, i gymdeithas, i gapel, i rihyrsal, ac hyd yn oed yn cael amser i fynd ar ambell daith a gwyliau, roedd yn dipyn o sioc pan ddaeth hynny i gyd i ben dros nos. Dydw i ddim yn hoffi bod yn segur ac roeddwn bob amser yn mwynhau elfen gymdeithasol yr holl weithgareddau roeddwn i ynghlwm â nhw – y siarad, y tynnu coes a’r sbri. Felly, yn ystod y Clo cyntaf, penderfynais bod yn rhaid imi lenwi’r gwacter hwnnw a dychwelais at weithgaredd roeddwn i’n ei fwynhau pan oeddwn yn iau, sef rhedeg. Gwelais gyfle i fanteisio ar yr holl amser rhydd i geisio ad-ennill rhywfaint o ffitrwydd a chael digon o awyr iach yn y fargen.

Doeddwn i ddim, fodd bynnag, yn disgwyl i’r rhedeg gael y fath ddylanwad cadarnhaol arnaf. Rwy’n gweld nawr mai elfen fach iawn o’r ymarfer hwn yw gwella ffitrwydd a cholli pwys neu ddau oherwydd mae’r effaith aruthrol ar fy iechyd meddwl yn rhywbeth nad oeddwn i’n ei ddisgwyl ac yn dipyn o sioc, a dweud y gwir.

Nid yn unig y mae’r rhedeg yn gwneud imi deimlo yn dda yn gorfforol, yn rhoi teimlad o lesiant a chyflawniad, ond mae hefyd yn gyfle i fynd allan ar fy mhen fy hun, i ddiffodd y swits ar feddyliau negyddol a phryderon a chanolbwyntio’n unig ar yr hewl. Mae’n gallu bod yn rywbeth cymdeithasol hefyd gan nad ydw i’n cofio gweld cymaint o bobl leol yn crwydro llwybrau’r fro ers tro byd!

Felly, dyma benderfynu troi ymarfer sy’n rhoi cymaint o fudd imi yn gyfle i wneud rhywbeth gwerth chweil a chodi arian i elusen “Mind” fel rhan o “Move for Mind.” Gosodais her imi fy hun i redeg 100 milltir ym mis Ionawr 2021 ac erbyn hyn rydw i dros hanner ffordd at y 100 milltir ac wedi codi dros £1000 at yr achos teilwng hwn. Mae haelioni pobl y fro yn parhau i fy synnu.

Os hoffech fy noddi a chefnogi elusen “Mind”, dyma’r ddolen Just Giving;

https://moveformind.blackbaud-sites.com/fundraising/her-mind-efan-mind-challenge

Efan Williams