Rasus Trotian Llanddewi Brefi

Daeth llond cae i Goed-y-Gof i weld y trotian.

gan angharad lloyd-jones
IMG_7465
IMG_7304

Tlysau’r enillwyr

IMG_7315

Betsan a Trystan Lloyd-Jones yn cyflwyno rhodd i Henry Bulman.

IMG_7464
IMG_7466-1

Braf eleni oedd cael cynnal Rasus Trotian Llanddewi Brefi ar gaeau Fferm Coed-y-Gof ar ôl blwyddyn o seibiant yn sgil Cofid ’19.

Pan ddaeth y neges trwyddo ar grŵp ‘what’s app’ y Rasus – Cyfarfod Brys!… ro’n i’n gwybod bod Rasus i fod! A Rasus fuodd ar Ddydd Sadwrn Braf Gŵyl Y Banc.

Mae’r rasus yn cael ei gyd-drefnu gan bwyllgor o bobol ifanc lleol a hefyd rhai o’r cyn-bwyllgor a fu’n cynnal y Rasus dros ddeng mlynedd yn ôl .

Fel ardal ry’ ni’n ofnadwy o ffodus bod yna gymaint o bobol sydd yn fodlon helpu gyda’r paratoadau cyn ac ar y diwrnod, ym mhob agwedd, o drefnu’r ceffylau, paratoi’r cae, y bwyd, a’r holl noddwyr hael a fu yn noddi i sicrhau  rasus llwyddiannus iawn unwaith eto eleni. Mae’n diolch ni i Mr a Mrs Gwyn Jones, Coed-y-Gof unwaith yn rhagor am gael cynnal y digwyddiad yna.

Pleser mawr oedd cael Mr Henry Bulman yn llywydd y dydd yng nghwmni ei wraig Heulwen. Mae Henry a Heulwen wedi rhoi blynyddoedd o’u hamser a’u cefnogaeth i’r Byd Rasus Trotian, a braint oedd hi i ni eu bod wedi gallu bod gyda ni ar y diwrnod i dderbyn rhodd wrth Betsan a Trystan Lloyd-Jones.

Eleni cafodd y tlysau eu creu fel gwobrau gyda gwobrau ariannol i’r enillwyr yn eu categorïau nhw. Crëwyd y tlysau hyfryd gan Dawn’s Emporium yn Llambed ac roedd yr enillwyr wrth eu bodd â nhw.

Teithiodd y ceffylau o bob cwr o’r wlad, er bod llai o geffylau yn rhedeg ar y cylched eleni oherwydd rheolau cofid ’19 a’r pryder na fyddai Rasus yn cael ei chynnal. Rhoddodd y rhai a oedd yn bresennol 100% i’r rasys. Roedd bob ras yn werth eu gwylio, wrth iddynt redeg ar lan yr afon a dros y bancyn cyn dod nôl dros y llinell ar ddiwedd y trac.

Roedd cyffro mawr yn y gynulleidfa wrth i’r rhedwyr gyrraedd y diwedd.

Diolch am bob gymorth wrth fusnesau’r ardal a fu yn hael iawn unwaith eto.

Dyddiad rasus Llanddewi Brefi blwyddyn nesaf yw y 27ain o Awst. Rhwoch e yn eich dyddiaduron!