Pobl ifanc Bro Caron am aros yn lleol

Sefyllfa pedair o ferched lleol, sydd eisiau byw ym Mro Caron.

Gwenan Evans
gan Gwenan Evans

Manon

Emma Rowbotham

Rhiannon James

Meirian Morgan

Fel ry’ ni gyd yn gwybod, mae gwreiddiau’r Gymraeg a Chymreictod yn gryf yn ardal Bro Caron, ac mae’n anodd cadw bant. Ond mae ‘na un ffactor fawr sydd yn cadw’r bobl ifanc bant ar hyn o bryd.

Fel merch leol, dwi wedi bod yn ffodus iawn o allu aros yn yr ardal. Yn wir, merch fy milltir sgwâr ydw i. Ar ôl blwyddyn o fyw yn Aberystwyth tra yn y Brifysgol a dod adre i Swyddffynnon yn ddyddiol, roedd yn amlwg taw yng nghefn gwlad oedd fy lle i. Dwi bellach yn byw efo fy mhartner ger Bethania ar ôl bod yn lwcus i allu byw yn nhŷ teulu ar y fferm.

Ond mae nifer fawr o bobl ifanc yn yr ardal yn methu prynu tŷ neu yn ceisio adeiladu cartref eu hunain. Felly beth yw eu sefyllfa nhw? Gyda phris cyfartaledd tai yng Ngheredigion yn cyrraedd chwarter miliwn ar hyn o bryd, dwi wedi bod yn gofyn i bobl ifanc yr ardal am eu sefyllfa nhw.

Manon Turner – 22, Nyrs / Ffermio adref. “Gyda phrisiau tai yng nghefn gwlad yr ardal tu allan i gyllideb pobl ifanc, ar hyn o bryd dwi’n rhenti byngalo gyda fy mhartner, ond wedi gwneud cais adeiladu am dŷ fforddiadwy ar dir y fferm, cartref am oes. Ni’n ddiolchgar iawn i bwyllgor rheoli a datblygu Ceredigion am eu cefnogaeth ar ein cais, a gobeithio bydd Llywodraeth Cymru’r un mor gefnogol.

Ar ôl mynd bant i Brifysgol yn Abertawe i gwblhau gradd yn nyrsio, roeddwn i’n edrych mlaen i gael swydd yn yr ysbyty lleol. Er mwyn gallu byw yma, ym mro ein mebyd, nyrsio yn yr ysbyty lleol, ffermio adref a magu teulu yn yr un ffordd a gefais i fy magu, adeiladu cartref yw’r ateb fforddiadwy.”

Manon Turner

Emma Rowbotham – 24, Swyddog Porth Gofal, Gwasanaethau Cymdeithasol. Ar hyn o bryd dwi dal yn byw gartref gyda’r teulu. Y rheswm yw bod prisiau tai lleol yn uchel ofnadwy. Dwi ddim yn ymwybodol fod tai fforddiadwy wedi cael eu hadeiladu yn Nhregaron na Phontrhydfendigaid yn ddiweddar. Mae hyn yn gwneud pethau’n anodd i bobl ifanc aros adre neu ddychwelyd nôl adref i’r ardal.

Mae’n bwysig i bobl ifanc alli aros yn yr ardal a’r gymuned. Os ydynt eisiau magu teulu, bydd hyn yn golygu cadw’r ysgolion ar agor, Urdd, CffI, Ysgol Sul ayyb sydd i gyd yn hwb i’r Gymraeg. Felly, yn fy marn i, dylid gwneud mwy i helpu pobl ifanc i aros a dychwelyd i’r ardal. Dwi m’ond eisiau cartref teuluol yn yr ardal cefais i fy magu.

Emma Rowbotham

 

Rhiannon James – 22, Gwerthu a rhenti tai
Dwi wedi bod yn rhenti tŷ yng Nghaersws efo fy nghariad dros y flwyddyn ddiwethaf ond bellach wedi symud nôl i fyw efo fy Mam yng Ngheredigion. Gan fod costau rhenti tŷ yn uchel, yr unig opsiwn trwy hefyd arbed arian ydy i fyw efo Mam am y dyfodol agos i arbed arian i brynu neu adeiladu cartref ein hun.

Adeiladu byddai’r freuddwyd, a gan fod fy mhartner yn adeiladwr bydd costau adeiladu yn debyg i gost prynu tŷ sydd yn cael ei ystyried yn fforddiadwy. Byddwn i wrth fy modd yn adeiladu a byw yng nghefn gwlad Ceredigion ble mae’r iaith Gymraeg yn gryfach, a magu plant ein hunain i siarad yr iaith yn rhugl yn yr ardal wnes i dyfu lan.

Rhiannon James

 

Meirian Morgan – 28, Athrawes, Llangeitho 
Dwi wedi prynu tŷ yn ddiweddar yn Nhregaron ar ôl byw efo fy rhieni ers dychwelyd o Brifysgol Caerdydd. Rwyf wedi bod yn edrych am dai yn lleol am sawl blwyddyn, ond ddim yn gallu cael gafael ar rywbeth oedd yn siwtio ac o fewn fy ngallu ariannol.

Pan weles i dŷ oeddwn i yn gallu fforddio, fe es amdani yn syth yn lle fy mod yn colli allan. Mae prisiau tai yn codi o hyd, yn enwedig yn y 6 mis diwethaf, a phobl ifanc lleol sydd yn colli allan.

Meirian Morgan

I rheini sydd yn gyfarwydd â thawelwch cefn gwlad Bro Caron; wedi tyfu lan ar fferm neu ar gyrion pentref, nid yw prynu tŷ yng nghanol pentref mawr neu dref yn opsiwn gan fod tawelwch a phurdeb y wlad yn amhrisiadwy.