Wal newydd Canolfan y Barcud

Gwaith celf trawiadol gan Ted Harrison.

Wrth basio heibio’r Ganolfan sydd ar y ffordd o Dregaron i Landdewi Brefi ar y B4343 cymerwch eiliad i fwrw golwg ar y gosodiad newydd ar wal Ogleddol yr adeilad. Yno gweler haid o silwetau barcutiaid coch fel pe baent yn disgyn i fwydo. Mae’r barcutiaid wedi eu gwneud o gopr, dur ac o ddur sy’n adlewyrchu.

Gellir gweld y cerfluniaeth mewn 3 ffordd wahanol:

– yn gyntaf fel haid o farcutiaid yn disgyn i fwydo

– yn ail, mae’r barcutiaid copr yn ffurfio delwedd eilaidd o Ddraig Goch Cymru

– ac yn drydydd, mae’r cerfluniaeth gyflawn yn cymryd ffurf colomen wen,-arwyddlun Dewi Sant.

Dyluniwyd y gwaith fel ei fod yn adlewyrchu’r newid yn y golau yn ystod y dydd.

Teitl y gwaith trawiadol yma gan Ted Harrison ar wal yr hen ysgol yw ‘Erlidigaeth yn Troi’n Ddathliad.’

Mae’n cyfuno dathlu ymdrechion llwyddianus achub y barcud coch yn ogystal a dathlu goroesiad ac adfywiad diwylliant Cymreig a’r iaith Gymraeg, gan gofio, medd Ted, mae yn ysgolion fel yr ysgol yma y cosbwyd blant am siarad eu mamiaeth yn y dosbarth.

Ers rhai blynyddoedd mae bywyd newydd gan yr hen ysgol fel Canolfan sy’n dathlu treftadaeth ardal Tregaron gan gynnwys sawl cyfeiriad tuag at y barcud coch yn ogystal a dosbarth ysgol oes Fictoria lle gwelir celfi ac offer o fyd addysg y gorffennol.

Mae Ted Harrison wedi ei hen sefydlu fel cerflunydd profiadol a chywrain. Mae yn gyfrifol am greu sawl darn o waith celf cyhoeddus o safon uchel, – cerfluniau wal yn anrhydeddu rhoddwyr organau yn ysbytai St Thomas a Guy’s yn Llundain, 30 darn o waith yn darlunio barddoniaeth RS Thomas, collage a llun o Gadair Ddu HeddWyn a mwy. Mae ganddo MA yn y celfyddydau cain a PhD Diwynyddiaeth.

Galwch heibio i weld y gwaith.