Nadolig Tregaron

DathlIadau Nadolig y dref

gan Fflur Lawlor
0CC975B3-932F-48EC-B6F9

Siôn Corn a’r Corachod

7F62EBE2-DCE8-48F5-BE74

Nos Wener 3ydd Rhagfyr cafwyd noson hyfryd i droi golau coeden Nadolig y dref ymlaen. Gobeithio bod pawb wedi mwynhau! Diolch i Luca, Zac a’r teulu am wasgu’r botwm, Heno S4C, Ysgol Henry Richard a Merched Soar am ganu, SPAR Tregaron a Siop Nwyddau Caron am y lluniaeth, Y Talbot, Tregaron am y trydan a’r Cyngor Tref am drefnu.

Diolch arbennig i Santa a’r gyrrwr am ymuno hefyd!

Bydd casgliad ar gyfer Latch ac Ysbyty Arch Noah yn aros ar agor tan ddiwedd mis Rhagfyr, felly os ydych am gyfrannu mae croeso i chi wneud yn Siop Nwyddau Caron.

Yna, nos Sul ddiwethaf cafwyd Taith Siôn Corn o amgylch y dref! Diolch i Santa, y Corachod, y gyrrwyr a Chyngor Tref Tregaron am drefnu.

Enillydd y tŷ wedi addurno orau yn ward Tregaron ac yn ennill £25 yw Marc Jones a Kelly Thomas – llongyfarchiadau mawr iddynt ac mae gwerth gweld y tŷ.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda i chi gyd a chadwch yn saff.

Cyngor Tref Tregaron