Merched Tregaron yn creu sŵn 

Caron360 fu’n sgwrsio gyda’r merched aeth ati i sefydlu Gŵyl Gerddoriaeth Gymraeg, Tregaroc

Manon Wyn James
gan Manon Wyn James

A hithau’n ddiwrnod rhyngwladol y merched mae ardal Tregaron yn ffodus iawn o gael degau o ferched ysbrydoledig yn byw yn y fro. Enghraifft berffaith o rai o’r merched hynny yw criw Tregaroc, sef chwech o ferched lleol a welodd gyfle i sefydlu Gŵyl Gerddoriaeth Gymraeg yn Nhregaron.

Nôl yn 2013 daeth criw o ferched gweithgar at ei gilydd i drafod y syniad o greu Gŵyl yn Nhregaron. Roedd nifer o wyliau cerddoriaeth yn bodoli eisoes ledled Cymru a oedd yn llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd eang ac fe fyddai gallu cynnal rhywbeth tebyg yn Nhregaron yn rhoi hwb enfawr i’r dref.

Flynyddoedd yn ddiweddarach ac mae Tregaroc wedi hen ennill ei lle yng nghalendr gwyliau gorau Cymru diolch i Mared Rand Jones, Ffion Medi Lewis-Hughes, Fflur Lawlor, Rhian Jones, Deina Hockenhull a Rhian Jones.

“Ry’n ni wedi llwyddo i gynnal Tregaroc chwe gwaith erbyn hyn” eglura Fflur Lawlor, un o’r trefnwyr. “Wrth gwrs bu’n rhaid gohirio gŵyl 2020 a 2021 – roedd y penderfyniad hwnnw yn anochel. Roedd rhaid i ni lynnu at ganllawiau iechyd a diogelwch a fyddai dim modd i ni adael cannoedd o bobl i mewn i Dregaron.”

“Mae Tregaron yn dref hollol hudol” ychwanega Mared Rand Jones. “Mae’n benthyg ei hun yn berffaith ar gyfer gŵyl o’r fath. Ma ‘na rywbeth mor eiconig am y sgwâr a’r strydoedd a’r adeiladau. Fe wnaethon ni sylweddoli bod na gyfle arbennig i greu gŵyl gartrefol gyda naws gwbl Gymreig yma. Roedd hi’n bwysig iawn i ni sicrhau bod yr ŵyl yn symud o gwmpas lleoliadau’r dref er mwyn cefnogi yr holl fusnesau.”

Mae Tregaroc wedi llwyddo i ddenu rhai o enwau mwyaf y sîn gerddoriaeth Gymraeg dros y blynyddoedd gan gynnwys Dafydd Iwan, Huw Chiswell, Eden, Ryland Teifi, Ail Symudiad, Elin Fflur a nifer fawr o grwpiau eraill. Ond sut mae mynd ati i ddenu’r enwau mawr i Dregaron?

“Mae’n cymryd lot fawr o waith paratoi” eglura Ffion Medi Lewis-Hughes. “Ry’n ni’n cadw’n bys ar byls y sîn gerddoriaeth Gymraeg i weld pwy yw’r enwau mawr i ni fynd ar eu hôl. Mae’r gwaith paratoi yn digwydd bron i flwyddyn o flaen llaw. Wrth gwrs dim ond un rhan o drefnu gŵyl yw cydlynu’r bandiau. Ma ‘na lot o waith hefyd o ran iechyd a diogelwch, cydlynu gyda’r cyngor Sir a busnesau lleol, denu nawdd, trefnu llwyfan, pebyll ac offer sain a goleuo.“

Mae’r merched hefyd yn cydnabod pwysigrwydd cefnogaeth bobl leol.

“Yr hyn sy’n braf am Tregaroc yw bod yr ŵyl yn llwyddo i ddenu cymysgedd hyfryd o bobl leol i fwynhau cerddoriaeth Gymraeg, gan hefyd ddenu pobl o bob cwr o’r wlad i ymweld â Thregaron.

Mae Tregaroc yn enghraifft berffaith o’r hyn gall chwe menyw weithgar ei gyflawni wrth ddod at ei gilydd.

A gyda’r pandemig wedi rhoi stop ar nifer helaeth o wyliau Cymru, beth yw gobeithion Tregaroc i’r dyfodol?

“Ry’n ni’n gobeithio ail-gydio yn Tregaroc yn 2022. Bydd honno yn flwyddyn enfawr i Dregaron gyda’r Eisteddfod hefyd yma ym mis Awst. Ac ar ôl saib o Tregaroc am ddwy flynedd fe fyddwn ni’n siŵr o sicrhau’r ŵyl orau eto!”

Does dim amheuaeth felly y bydd slogan enwog yr ŵyl – Tref Fach a Sŵn Mawr yn sicr o fod yn fwy gwir nag erioed o’r blaen!