Meddygfa Tregaron yn brechu yn erbyn Covid19. 

Tro’r trigolion dros 80 oedd derbyn eu pigiadau heddiw.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
received_159950402303937

Dr Langley yn paratoi ar gyfer y brechu.

Y staff yn barod ar gyfer diwrnod o frechu.

Aerona Rees wedi derbyn ei phigiad.

Eirioes Ayres – y cyntaf i dderbyn brechlyn heddiw yn Nhregaron.

Yng Nghanolfan Hamdden Tregaron heddiw, daeth dros 220 o’n trigolion sydd dros 80 oed i dderbyn eu brechlyn Oxford Astra Zeneca.

Cafodd y Feddygfa a’r gymuned eu canmol am y trefniadau ac roedd pawb wrth eu bodd yn cael derbyn y pigiad. Nodwyd, ar sawl achlysur heddiw, taw dyma “ddechrau’r diwedd”… O’r diwedd!

Diolchodd Dr Carl Langley o’r feddygfa i’r holl henoed a’u teuluoedd, ffrindiau a chymdogion. “They were superb,” meddai.

Roedd holl staff y feddygfa yn falch o gael dechrau ar y gwaith o frechu trigolion ein bro.

Rhaid yw cydnabod ymdrech yr holl wirfoddolwyr hefyd heddiw. Diolch i chi gyd.

Rhoddwyd y Ganolfan Hamdden am ddim ar gyfer y digwyddiad hanesyddol yma, oherwydd diffyg cyllid mae’n debyg.

Eirioes Ayres oedd y cyntaf i dderbyn y brechlyn. (gweler y llun) Gweler llun hefyd o Aerona Rees yn eistedd am 5 munud wedi’r brechlyn.

Ymlaen yn nawr i frechu’r trigolion 80+ sy’n gaeth i’r tŷ ac yna gweithio drwy’r categorïau oedran.

 

 

1 sylw

Efan Williams
Efan Williams

Newyddion gwych. Mae gobaith!

Mae’r sylwadau wedi cau.