“Dwi’n meddwl fod hyn y ffordd fwyaf teg o roi graddau eleni” 

Ymateb Elin Mai Williams i’r cadarnhad mai ysgolion a cholegau fydd yn dyfarnu graddau eleni

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae disgyblion ar draws y wlad wedi anadlu anadl o ryddhad, ac yn eu plith mae Elin Mai Williams sy’n byw yn Lledrod ac yn astudio yn Ysgol Penweddig.

Daw hynny wedi i Lywodraeth Cymru gadarnhau’r wythnos hon mai athrawon fydd yn pennu graddau TGAU, Uwch Gyfrannol a Safon Uwch eleni, yn hytrach nag cynnal asesiadau allanol ffurfiol.

Roedd y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, eisoes wedi cael gwared ar arholiadau diwedd blwyddyn 2021, yn sgil y pandemig.

Bellach, mae hi wedi cyhoeddi y bydd myfyrwyr yn derbyn graddau o’u hysgol neu goleg yn seiliedig ar waith maen nhw’n ei gwblhau dros gyfnod eu cwrs.

“Gwybod be allwn ni anelu ato”

“I fod yn onest, rwy’n hapus â’r cadarnhad a fi’n credu fod pawb yn falch,” meddai’r disgybl Blwyddyn 13.

“Oni’n sgwrsio gyda fy nosbarth i bore ‘ma,” meddai, “ac roedd pawb yn dweud pa mor falch oedden nhw eu bod nhw wedi cadarnhau hyn rŵan.

“Ni’n fwy ymwybodol o’r sefyllfa ac yn gwybod be allwn ni anelu ato.

“Roedd pawb yn dechrau danto, achos oedden nhw ddim yn siŵr os oedd pwrpas i wneud y gwaith – ond nawr mae pawb yn glir,” meddai.

“Y ffordd fwyaf teg o roi graddau eleni”

Eglurai Elin bod rhai wedi bod yn pryderu ynglŷn â’r posibilrwydd o gynnal asesiadau’n rhithiol:

“Roedden nhw’n sôn am wneud rhai asesiadau dros Teams,” meddai, “a fi’n credu roedd pawb yn pryderu dros hynny achos dydi rhai pobol ddim hefo’r Wifi a’r signal i allu gwneud.

“Fydda fe ddim yn deg ac rwy’n credu, ni wedi cael cam ar hyn o bryd o fod yn gweithio gartref achos mae rhai llai ffodus nag eraill a heb yr adnoddau iawn.

“Felly dwi’n meddwl fod hyn y ffordd fwyaf teg o roi graddau eleni.”

Mae modd darllen mwy o ymatebion gan ddisgyblion fan hyn.