Ma hoci nôl!

Llandysul V Caron – 10/10/21

gan Fflur Lawlor

Braf oedd gweld Clwb Hoci Caron nôl yn chwarae ddoe ar ôl deunaw mis heb gêm, oddi cartref yn erbyn ail Llandysul.

Roedd yn gêm gystadleuol iawn gyda’r ddau dîm yn chwarae yn dda. Sgor trefynol oedd 1-1 gyda Gwenno Dark yn sgorio ag Alaw Rees yn cael seren y gêm i Dregaron.

Mae ei gêm nesaf dydd Sul 24ain Hydref oddi cartref yn erbyn Abertawe.

Os oes diddordeb gan rhywun i ymuno â’r tîm, maent yn ymarfer bob nôs Fawrth o 6-7.30pm ar Astro Llambed. Croeso i unrhyw un dros 14 mlwydd oed i ymuno.