Gwobrwyo Cynorthwyydd Gofal Bryntirion

Katie Hall yn cael ei chydnabod fel ‘Seren Gofal’ am ei dewrder wrth gefnogi’r henoed yn wyneb y pandemig

Megan Lewis
gan Megan Lewis


Mae Cynorthwyydd Gofal Dydd o Dregaron wedi cael ei chydnabod fel un o’r Sêr Gofal Cymdeithasol.

Enillodd Katie Hall y categori ‘Cymorth gofal cymdeithasol i oedolion’ yn rhan o wobrau Sêr Gofal 2021 gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae Katie yn Gynorthwyydd Gofal Dydd yng Nghartref Gofal Bryntirion, Tregaron, a bu’n gweithio am gyfnod yng nghartref Min y Môr yn Aberaeron y llynedd ynghanol y pandemig.

‘Peryglodd ei bywyd heb feddwl dwywaith’

“Mae Katie yn ofalwr rhagorol sy’n deall yr henoed yn reddfol ac sy’n gwybod sut i wneud iddyn nhw gredu ynddynt eu hunain a disgleirio, yn enwedig os oes ganddyn nhw ddementia,” meddai MC Lai, sef ei chydweithiwr a enwebodd hi.

“O fewn dyddiau i Covid-19 daro Min-y-Môr ym mis Rhagfyr 2020, Katie oedd yr unig aelod parhaol o staff yn y cartref gofal.

“Trefnodd Katie fod gofalwyr asiantaeth yn dod i’r cartref yn ystod yr argyfwng a gweithiodd ddydd a nos am wythnosau er mwyn sicrhau bod yr holl breswylwyr yn medru gweld wyneb cyfarwydd a chael cysur o hynny.

“Hefyd, ei llais hi oedd y llais olaf i rai o’r preswylwyr ei glywed cyn i Covid eu dwyn oddi wrthym.

“Peryglodd ei bywyd heb feddwl ddwywaith gan wneud hynny yn ystod pob eiliad o bob shifft – a dim ond 26 oed yw hi!

“Pan glywaf am arwyr tawel, rwy’n meddwl am Katie yn y dyddiau ofnadwy hynny. Rwy’n credu’n ddiffuant fod ei hagwedd anhunanol, ei phroffesiynoldeb a’i dewrder yn haeddu cael eu cydnabod.”

‘Ni allwn diolch digon’ – Cyng Catherine Hughes

“Mae Katie yn llwyr haeddu’r wobr hon, gan iddi sicrhau’r gofal gorau posibl i breswylwyr Bryntirion,” meddai’r Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Cyngor Sir Ceredigion dros y Porth Gofal.

“Diolch a llongyfarchiadau, Katie. Rydym yn hynod ddiolchgar i’n staff gofal cymdeithasol ar draws ein cartrefi yng Ngheredigion.

“Mae’r cartrefi wedi wynebu heriau mawr dros y flwyddyn a hanner ddiwethaf ac mae’r staff wedi gwneud llawer mwy na’r disgwyl er mwyn mynd i’r afael â’r heriau hyn. Ni allwn diolch digon iddynt.”