Gwallt Gwerthfawr Gwenno

Tyfu gwallt i helpu eraill.

gan Catherine Hughes

Mae merch fach o Dregaron wedi tyfu ei gwallt dros y cyfnod clo er mwyn helpu merched bach sydd wedi colli eu gwallt oherwydd salwch.

Ar fore Sadwrn cyntaf mis Gorffennaf torrodd Gwenno Hughes ei gwallt a rhoi 13 modfedd i elusen Little Princess Trust. Casglodd hefyd £1,000 o arian nawdd, diolch i bobl yn ei noddi dros y cyfnod.

Mae teulu Gwenno yn browd iawn ohoni fel mae pawb o’i ffrindiau. Mae’n ddisgybl yn Ysgol Henry Richard.

Diolch Gwenno am gael y syniad arbennig yma ac am feddwl am eraill llai ffodus.