Dim ciw am frechiad yn Nhregaron

Dim ffys. Dim apwyntiad. Pigiad a mynd.

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies
IMG_20211222_100102

Ewch i ganolfan hamdden Tregaron HEDDIW cyn 5 o’r gloch i dderbyn eich brechiad.

Dim ffys, dim ciw.

Does dim angen apwyntiad. Does dim rhaid bod yn glaf ym Meddygfa Tregaron, dim ond eich bod chi wedi eich cofrestru â Meddygfa yng Ngheredigion.

Mae’r cleifion yn cerdded mewn i’r ystafell fawr yn y ganolfan hamdden, yn eistedd wrth fwrdd (roedd digon o rhain, tua 8) ac yn derbyn y pigiad yn syth. Mae’r nyrs yn holi ambell gwestiwn, yn llenwi’r ffurflenni ac yna’n brechu.

Mae’r nyrs yna’n gofyn i chi aros am 15 munud ar ôl derbyn y pigiad, ac yna cewch adael.

“Bues i yno am 20 munud. Mewn a mas.”

Mae 400 o bigiadau gyda’r feddygfa i’w rhoi i’r gymuned heddiw.

Ewch yn eich dillad gwaith, eich welis. Ewch rhwng wneud tasgau. Ewch ag aelodau o’r teulu sydd methu gyrru. Ewch! Heddiw!