Fandaliaeth

Difrodwyd ceir, cerrig beddi ac adeiladau nos Sadwrn yn Llanddewi Brefi a Thregaron. 

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Ffenest yn Llanddewi Brefi

Bedd yn Eglwys Llanddewi Brefi

Bedd yn Eglwys Llanddewi Brefi

Bedd yn Eglwys Llanddewi Brefi

Bedd yn Eglwys Llanddewi Brefi

Bedd yn Eglwys Llanddewi Brefi

Bedd yn Eglwys Llanddewi Brefi

Toiledau Tregaron

Toiledau Tregaron

Maes Parcio Tregaron

Maes Parcio Tregaron

Wrth ddihuno fore Sul, cafodd trigolion Tregaron a phentref Llanddewi Brefi sioc o weld bod mannau yn eu tref/pentref wedi’u fandaleiddio.

Yn Llanddewi roedd graffiti ar y cerrig beddi yn yr eglwys, gwydr wedi malu ar draws y parc, a cheir ac adeiladau yn y pentref wedi’u difrodi ac wedi’u gorchuddio ag wyau a phaent. Yn ogystal, difrodwyd goliau Tîm Pêl-droed Sêr Dewi ac maen nhw wedi gorfod cael eu tynnu lawr er mwyn eu ail-weldio. Crafwyd ceir yn y pentref hefyd tua phythefnos nôl.

Tebyg oedd y sefyllfa yn Nhregaron, gyda thoiledau’r dref a ‘dugouts’ newydd y tîm pêl-droed, Y Turfs wedi cael difrod.

Mae’r bobl leol yn siomedig iawn bod y fath beth wedi digwydd.

“Bydda i’n cloi drws y tŷ bob nos o hyn allan ac yn parcio’r car yn y garej.” meddai un.

Ac meddai person arall sy’n byw yn yr ardal, “Amarch llwyr yw hyn. Mae ‘spreio’ wal yn un peth, ond mae gwneud graffiti ar garreg fedd yn rhywbeth arall. Gwarthus.”

Mae’r heddlu yn ymwybodol o’r digwyddiadau yma.

Oes cysylltiad rhwng y fandaliaeth yn y ddau leoliad, does neb yn siŵr eto.

.