Elin Jones yn annog trigolion Ceredigion i gymryd rhan mewn ymgynghoriad parthau 20mya

Os caiff y ddeddfwriaeth ei phasio, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno’r newid

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Elin Jones, Aelod o’r Senedd Ceredigion, wedi annog ei etholwyr i gymryd rhan yn ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar weithredu parthau 20mya ar hyd ffyrdd preswyl yng Nghymru.

Bydd cynlluniau i leihau’r terfyn cyflymder safonol cenedlaethol o 30mya i 20mya ar ffyrdd mewn ardaloedd preswyl ac ar strydoedd prysur i gerddwyr yn rhan o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.

Os caiff y ddeddfwriaeth ei phasio, Cymru fydd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno’r newid.

Fe fydd y newid yn chwarae rhan allweddol wrth helpu i achub bywydau, diogelu cymunedau, a gwell ansawdd bywyd pawb, meddai Llywodraeth Cymru.

Mae cam cyntaf y newid yn cael ei gyflwyno mewn wyth cymuned yng Nghymru er mwyn casglu data a datblygu arferion gorau cyn i’r cynllun gael ei gyflwyno’n llawn yn 2023.

Fel rhan o’r gwaith hwnnw, mae Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad deuddeg wythnos, a fydd yn dod i ben ar 12 Medi, i bobol gael rhoi eu barn cyn i’r ddeddfwriaeth ddod i rym.

“Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar weithredu terfynau cyflymder 20mya mewn ardaloedd preswyl ac ar ffyrdd sy’n cael eu defnyddio’n rheolaidd.

“Mae’r rhan fwyaf o bryderon rwy’n eu derbyn gan drigolion ynghylch diogelwch ar y ffyrdd yn ymwneud â lleoliadau ar hyd yr A487 a’r A44.

“Byddwn yn gofyn i bobol roi o’u hamser i ystyried yr ymgynghoriad, sydd i’w weld ar wefan Llywodraeth Cymru.

“Os oes angen unrhyw help arnoch i gael mynediad i’r ymgynghoriad, bydd fy swyddfa’n falch o gynorthwyo.”