Dim Eisteddfod 2021 ond ymwelwyr i’r ardal

Cwrdd ag ymwelwyr yn Abaty Ystrad Fflur wythnos Eisteddfod 2021

gan Gwenllian Beynon
ystrad-fflur-a-poster-1

Poster Arddangosfa Rebbeca Wyn Kelly a Bwa Ystrad Fflur

Eisteddfod AmGen

Roedd Blas o faes Eisteddfod yn Ystrad  Fflur yn ystod wythnos gyntaf mis Awst. Er nad oedd Eisteddfod eleni roedd llawer o bobl wedi penderfynu dod i aros yn eu llety ac i fwynhau atyniadau’r ardal.

Tra oeddwn lawr yn Ystrad Fflur dros 2 prynhawn yn ystod wythnos gyntaf Awst, roedd fel bod ar faes yr eisteddfod. Digwyddais ddod ar draws hen ffrindiau a chyfeillion nad oeddwn wedi gweld ers oes, a na, doedd y bobl yma ddim yn lleol.

Cwrddais a siaradais â nifer o bobl, er enghraifft y teulu o Lundain oedd wedi dod gan eu bod wedi bwcio i ddod i’r eisteddfod. Roedd y ddynes yn wreiddiol o Ogledd Cymru a gwnaeth hi, trwy gyd-ddigwyddiad, gwrdd â hen ffrind ysgol tra yn amgueddfa fach newydd yn y Tŷ Pair, Ymddiriedolaeth Ystrad Fflur. Roeddwn yn gweld y sefyllfa yma yn ddiddorol iawn ac yn fy atgoffa am wythnos eisteddfod wrth arsylwi ar yr ymwelwyr.

Yn ogystal, ges i sgwrs gyda John Jones, Dafydd Parry a John Jones o Ogledd Cymru, fel y gwelir yn y ffilm. Roedden nhw wedi bod yn cerdded llwybr yr arfordir ac wedi gweld cerrig a lliw aur arnynt– sef y goredi (trapiau pysgota) yn Aberarth a baner arddangosfa Rebecca Wyn Kelly. Daethon nhw lan i Ystrad Fflur i Weld yr Abaty, mynwent hynafol Santes Fair, Ystrad Fflur a thrwy hap a damwain dod ar draws arddangosfa, Rebecca yn yr Abaty. Mae arddangosfa Rebecca yma fel rhan o’r Eisteddfod AmGen ac mae Rebecca wedi gweithio fel artist preswyl yn yr Abaty dan nawdd CADW am flwyddyn. Bydd yr arddangosfa yn yr Abaty tan 10/9/21

Roedd wir ddiddordeb gan y 3 yn yr ardal a ges i sgwrs hyfryd gyda nhw, ac roedd cwrdd a siarad â nhw yn gwneud i fi hiraethu am yr Eisteddfod a’r wythnos bwysig hynny sydd yn dod a Chymry at ei gilydd mewn un man. Ges i flas o hyn dros y 2 prynhawn.

Gobeithio wir y byddant oll yn gallu dod yn ôl i’r ardal pan fydd yr Eisteddfod, gobeithio, yn 2022.