Dweud eich dweud ar adleoli dwy o gofebau Tregaron

Mae cofebau’r Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd yn chwilio am gartrefi newydd

Megan Lewis
gan Megan Lewis

Mae ymgynghoriad wedi agor yn gofyn am eich barn am le i adleoli dwy garreg goffa o Hen Ysgol Uwchradd Tregaron.

Mae dwy goflech wedi’u gosod ar wal y tu mewn i Hen Ysgol Uwchradd Tregaron. Maent yn coffáu’r cyn-ddisgyblion a gollodd eu bywydau wrth frwydro yn y ddau Ryfel Byd.

Cofebion rhyfel yw’r coflechi hyn ac maent wedi’u cofnodi yn Rhestr Genedlaethol Cofebion Rhyfel y Deyrnas Unedig.

Ymddiriedolaeth ‘Hen Ysgol Sirol Tregaron’ yw perchennog yr Hen Ysgol a bydd yn cael ei gwerthu cyn hir gan Gyngor Sir Ceredigion, sef ymddiriedolwr yr eiddo, felly mae angen cartref newydd ar y coflechi.

‘Mewn angof ni chânt fod’

Nod yr ymgynghoriad yw casglu barn pobl leol am leoliadau pwrpasol i adleoli’r coflechi fel y gall y gymuned leol a’r cyhoedd yn gyffredinol eu gweld a chofio’r rhai a fu farw am genedlaethau i ddod.

Dywedodd y Cynghorydd Catherine Hughes, Aelod Cabinet Ceredigion a Chynghorydd ardal Tregaron: “Mae’r ddwy garreg yma yn rhan fawr o hanes Tregaron am eu bod yn coffáu cyn-ddisgyblion yr ysgol a gollodd eu bywydau yn y rhyfeloedd. O ganlyniad, mae’n bwysig ein bod yn casglu barn y bobl leol am y lle gorau i’w gosod er mwyn gallu parhau i’w coffáu am genedlaethau i ddod. Yng ngeiriau’r gofeb – ‘Mewn angof ni chânt fod’. Rwy’n eich annog i gwblhau’r arolwg a’i rannu â ffrindiau ac aelodau o’r teulu.”

Llenwi’r arolwg 

Cymerwch ran yn yr arolwg a agorodd ddydd Llun, 01 Tachwedd 2021, ac a fydd yn parhau am bedair wythnos: Ymgynghoriad ar Goflechi Hen Ysgol Uwchradd Tregaron