Daeth llond y lle o ymwelwyr i Drewern Fawr ger Llangeitho ar ddydd Sul yr 8fed o Awst ar gyfer diwrnod gardd agored. Croesawyd y bobl yno’n gynnes gan deulu’r Richards i’w cartref arbennig.
Mae’r teulu’n byw yno ers dros ugain mlynedd bellach ac wedi datblygu’r tyddyn dros y blynyddoedd. Cafwyd y cyfle i grwydro’r gerddi, gweld y berllan a chael te a chacen ffein gan Clarissa cyn gadael.
Roedd holl elw’r diwrnod yn mynd tuag at elusen cancr.
Dyma gartref y garddwr ifanc, Huw Richards sydd wedi gwneud enw iddo’i hun trwy ei sianel Youtube. Mae Huw bellach wrthi’n ysgrifennu ei drydydd llyfr am arddio ac yn cynnal cyrsiau a gweithdai garddio hefyd. (Yn siarad o brofiad… mae ei lyfrau’n wych ar gyfer dechreuwyr, ac mae’r llyfr Veg in One Bed fel beibl i arddwraig ddibrofiad fel fi.)
Braf oedd crwydro’r gerddi a chael cyfle i holi Huw a’i dad, Steve am y gerddi a’r llysiau organig, a chael cyngor wrth y gŵr ei hun.
Dywedodd Huw ar ei dudalen Instagram ar ôl y diwrnod agored, “Diolch i bawb am ddod ac am yr holl sgyrsiau gwych. Mae’n neis gweld diddordeb mawr mewn tyfu bwyd, nifer o’r ymwelwyr yn newydd i dyfu bwyd, a rhai ar fin dechrau.”
Llongyfarchiadau i’r teulu am gynnal diwrnod gwych.