gan
Enfys Hatcher Davies

Miss Kassey, Miss Gayle, Miss Eleri a Miss Anisa gyda rhai o’r plant.

Carden gan ddisgyblion y Cylch.

Cerdd i Miss Eleri. Diolch i Argraffwyr Lewis + Hughes am y plac.

Y staff a’r plant yn cael te parti bach.
Ar ran Bro Caron i gyd, roedd hi’n braf cael cyflwyno rhoddion i Miss Eleri (Walters) heddiw ar ran Pwyllgor y Cylch Meithrin a’r gymuned i gyd.
Mae Miss Eleri wedi bod yn boblogaidd iawn gyda phlant ein bro ers bron i ddeunaw mlynedd. Dyma gynorthwyydd hoffus a chariadus yn y Cylch Meithrin yn Nhregaron ac rydyn ni gyd yn gweld eich eisiau.
Diolch i chi Miss Eleri am eich gwasanaeth ar hyd y blynyddoedd.