Dewch i Gadw’n Heini!

Ysgol Henry Richard yn darparu sesiynau ffitrwydd i’r gymuned i gyd. Dewch i ymuno.

gan Huw Bonner

 

Eisiau llosgi’r holl galoriau Nadolig i ffwrdd?

Dim cymhelliant? (motivation)

Angen cic yn y pen-ôl?

Ymunwch â’n sesiwn ffitrwydd ni.

Sesiwn i’r gymuned gyfan. Bydd y sesiwn yn addas ar gyfer pob math o lefel ffitrwydd: y rheiny ohonoch chi sy’n ddi-hyder neu heb ymarfer eich corff ers amser, neu i’r rhai sy’n fwy hyderus ac angen her.

Bydda i, Huw Bonner yn arwain y sesiwn ar ran yr ysgol. Yn amlwg, bydd croeso i chi droi eich camera a’ch ‘speakers’ i ffwrdd, neu eu gadael arno. Rydyn ni wedi dechrau sesiynau o’r math hwn gyda’r staff yn barod, ac mae’n profi’n llwyddiannus iawn hyd yn hyn. Rydyn ni’n cwrdd ar y we cyn i’r ysgol ddechrau er mwyn dihuno a chlirio’r meddwl cyn diwrnod o waith. Dewch i ymuno â ni.

CYMON Bro Caron!

Dyma’r linc i’r sesiwn: http://bit.ly/YHR-SesiwnFfitrwyddByw

2 sylw

Mae’r sylwadau wedi cau.