Derby o’r diwedd!

Sêr Dewi v Tregaron Turfs

gan Arwel Jones

Roedd dydd Sadwrn 26ain Mehefin 2021 yn ddiwrnod hanesyddol i bêl-droed lleol, wrth i Sêr Dewi herio ail dîm Tregaron Turfs yn Llanddewi Brefi. Dyma’r tro cyntaf i’r ddau glwb herio’i gilydd mewn blynyddoedd maith.

Mae tîm Sêr Dewi yn llawn chwaraewyr ifanc talentog gyda 13 o’r 16 chwaraewr dan 20 oed sy’n argoeli’n dda i’r dyfodol. Tîm newydd sbon yw ail dîm Tregaron Turfs, cafodd ei ffurfio dros y cyfnod clo yn sgil dyrchafiad y tîm cyntaf i adran yn uwch. Cymysgedd sydd yma o’r ifanc ar ‘profiadol,’ a braf iawn yn gweld tîm newydd yn cychwyn yn yr ardal.

Gan fod y ddau dîm yn chwarae mewn adrannau gwahanol ac wedi osgoi cyfarfod mewn gemau cwpan dros y blynyddoedd, mae’r aros am gêm rhwng y ddau glwb wedi bod yn hir iawn. Maa’r ddau dîm wedi profi llwyddiant mawr dros y blynyddoedd a gobeithiwn weld y ddau yn llwyddo eto yn y dyfodol agos.

O ran y gêm, Ser Dewi fu’n fuddugol o 3 gôl i 1. Roedd hi’n gêm gystadleuol iawn gyda’r goledd ar y cae yn effeithio’n fawr ar batrwm yn chwarae! Gyda’r Sêr yn chwarae i lawr yn yr hanner cyntaf, nhw aeth ar y blaen wedi ychydig o flerwch yng ngôl y Turfs. Mi ddisgynnodd y bêl yn garedig i draed ymosodwr y Sêr i roi’r bêl yng nghefn y rhwyd. Ychydig yn ddiweddarach, wedi llithriad gan amddiffynnwr y Turfs, mi ruthrodd ymosodwr y Sêr drwyddo ar y gôl a gorffen yn gelfydd iawn. Yna jyst cyn hanner amser, mi darodd y Turfs yn ôl i’w gwneud yn 2-1.

Wedi’r hanner amser, y Turfs oedd yn rheoli ac yn chware i lawr y cae a gyda cyflwyno dau o’r tîm cyntaf i’r cae, mi newidiodd llif y chwarae gryn dipyn. Ond er y pwysau a’r gwasgu, ac amddiffyn cadarn y Sêr, methodd y Turfs gymryd mantais, a gyda rhai munudau’n weddill, mi dorrodd y Sêr i fyny’r cae a chael cic o’r smotyn, ble sgoriwyd y drydedd gôl i selio’r fuddugoliaeth.

Llongyfarchiadau mawr i’r Sêr a gobeithiwn na fydd rhaid aros cyhyd am gêm arall rhwng y ddau glwb.