Darlith am Dregaron

Hanes llawn “lliw, rhamant a chyffro.” 

Enfys Hatcher Davies
gan Enfys Hatcher Davies

Dadorchuddio cofgolofn Henry Richard ym 1893.

Banc y Ddafad Ddu.

Map o’r dref ym 1835.

Eliffant yn rhan o syrcas yn nofio yn y môr yn Aberystwyth. (Mae pawb wedi clywed am hanes Jwmbi yr eliffant sydd wedi’i gladdu tu ôl i’r Talbot mae’n siŵr.)

Joseph Jenkins, a adawodd ei deulu yn Nhrecefel am Awstralia! Cadwodd ddyddiadur am 58 o flynyddoedd.

Cassie Davies. Merch fferm o Flaencaron. “Menyw ac athrawes ysbrydoledig, blaengar ac eithriadol o siaradus.”

Yn rhan o arlwy’r Eisteddfod AmGen eleni, cyflwynwyd darlith ddiddorol gan Yr Athro Geraint H Jenkins am ein bro.

Ambell ffaith ddifyr o’r ffilm am y Caroniaid a’r ardal…

  • Roedd 11 tafarn yn nhref Tregaron yn 1820!
  • Roedd sedd i 800 o bobl yng Nhapel Bwlchgwynt yn 1895 ac erbyn 1910, roedd 45 capel Methodistiaid a 45 ysgol Sul yng nghylch Tregaron.
  • Roedd merched Tregaron yn enwog am fod yn “chwim eu tafod” ac yn “ffond o gario clecs!”
  • Bu farw 6 baban yn iau na mis oed i Mary Richard! (Mam Henry Richard)
  • Yn y flwyddyn 1891, roedd 99% o bobl yr ardal yn siarad Cymraeg.

Yn rhan o’r ddarlith, cewch ddysgu am hanes cynnar y dref a’r ardal: Banc y Ddafad Ddu, Cors Caron ac wrth gwrs, y bobl.

Joseph Jenkins, y swagman Cymreig; Cassie Davies, “Corwynt o ddynes;” ac wrth gwrs, Henry Richard, arwr mwyaf Tregaron.

Mae’r ddarlith hefyd yn tynnu sylw at rai unigolion na cheir eu lluniau yn y llyfrau hanes. Trigolion sy’n enwog am fod mewn trwbwl gyda heddlu’r dre. Gwyliwch i glywed am sawl aderyn brith!

Gwyliwch “Tref y mawn… Tref y mynydd” i ddysgu fwy am hanes Bro Caron.