Criw ffilmio yn y fro!

Os digwydd i chi fod ar Sgwâr Tregaron bore Mercher nesa (19 Mai). . . 

gan Delyth Humphreys

Rhan o glawr y llyfr

Anne yn arwain taith yn ei milltir sgwâr

. . . efallai y gwelwch chi griw ffilmio wrth eu gwaith!

‘Be sy mlân te?’ meddech chi.

Un o awduron y fro fydd yn serennu mewn eitem ar Prynhawn Da dydd Mercher 26 Mai. Os ydych eisoes wedi darllen Fan Hyn a Fan ‘Co gan Anne Gwynne, Cefnbanadl, tybed a allwch chi ddyfalu pa un o’r teithiau sydd yn y llyfr, ac sy’n lleol i Dregaron, fydd yn cael sylw ar y rhaglen?

Os nad ydych wedi cael gafael ar gopi hyd yn hyn, siawns na fydd yr eitem ar y teledu yn ddigon i godi awydd arnoch i’w brynu a’i ddarllen. Mae’n llawn o wybodaeth ddifyr am 38 o deithiau cerdded, nifer ohonyn nhw yng Ngheredigion.

Mae’r gyfrol ar gael mewn siopau lleol, neu cysylltwch ag Anne ar 01974 298995. Ei phris yw £7.95 a rhennir unrhyw elw o’i gwerthiant rhwng Cymdeithas Edward Llwyd, Ambiwlans Awyr Cymru a Ward Cemotherapi Ysbyty Bronglais, Aberystwyth.