Mae’n anodd credu, ond mae dros ddeugain mlynedd wedi mynd heibio ers i mi gael y syniad rhyfygus o ddechrau clwb jiwdo yn Nhregaron. Daeth rhyw ddeg o bobl at ei gilydd yn y Neuadd Goffa i ateb yr hysbyseb a dechrau ar y dasg o godi arian i brynu matiau.
Dau syniad a ddaeth i’r fei – tynnu car Mini o Aberaeron i Dregaron, ar un o ddiwrnodau poethaf y flwyddyn, ac i’r bechgyn i gael eu noddi i wneud press ups a’r merched i wneud sit ups. O ran cofnod hanesyddol, Dilwyn Daniels a wnaeth y mwyaf o press ups – 114 rwy’n credu. Y cyfan a wnes i oedd 99. Rwy’n cofio i rywun ofyn I mi pam wnes i ddim ymdrechu i gwblhau’r cant, ond dydw i ddim yn cofio beth ddywedais iddo yn ateb!
‘Ta waeth, llwyddon ni i godi saith deg o bunnoedd, oedd yn ddigon i brynu matiau, a dechrau ar y clwb yn iawn. Cyn bo hir wedyn dechreuon ni fynd lawr i Gaerdydd i gymryd rhan mewn cystadlaethau graddio ar foreau Sul. Doedd hynny ddim yn hawdd – yn arbennig os oeddech chi wedi bod allan y noson gynt! I ddechrau, doedd e ddim yn rhy ddrwg, oherwydd roeddwn i gyd yn “seniors” ac yn cofrestru am ddau y prynhawn. Ond wedyn, fel roedd y clwb yn ehangu ac yn cymryd aelodau iau, roedd rhaid codi’n gynnar iawn i gofrestru erbyn 10. Cofiaf sawl tro gorfod aros fy hunan cyn mynd ar y mat tan saith o’r gloch y nos.
Er gwaethaf yr anawsterau, cyrhaeddodd sawl aelod o’r clwb safon go uchel o bryd i’w gilydd. Y diweddar Barri Williams, Penlôn, Blaenpennal oedd yr un cyntaf o’r bechgyn i ennill gwregys brown, Ema Williams y ferch gyntaf. A rhaid dweud, ar hyd y daith roedd merched yn aelodau brwd a gweithgar ac yn gwneud argraff bendant iawn ar y matiau cystadlu Cymru benbaladr.
Clwb Cymraeg ei iaith oedd Clwb Jiwdo Tregaron a chredaf taw dyma’r unig glwb swyddogol Gymraeg, er bod ni’n cwrdd o bryd i’w gilydd ag ambell i glwb arall oedd wedi dod lawr o’r gogledd pell i “gwffio” yng Nghaerdydd. Rhaid dweud, nid oedd pob un o bobl Jiwdo Caerdydd yn teimlo’n gysurus i glywed cymaint o’r Gymraeg o gwmpas y mat yng Ngerddi Soffia ond roedd rhaid iddynt ymgyfarwyddo. Ac ar yr un pryd cafodd aelodau’r clwb sawl cyfle diddorol o ganlyniad i hynny. Teithion ni i Lydaw ddwywaith ar ran Cymdeithas Judo Cymru, i gymryd rhan mewn cwrs a chystadleuaeth ‘Gwren’, sef y dull traddodiadol Llydaweg o ymgodymu. O ran y cystadlu ymysg grŵp rhyngwladol a rhai ohonynt yn hyddysg iawn yn y gamp, roedd hi’n fater o ddysgu yn glou iawn. Cawson ni gyfle hefyd i wneud sawl rhaglen deledu gyda ITV, BBC ac S4C.
Parheais i arwain y clwb am ryw ddeng mlynedd cyn ei drosglwyddo i’m merch hynaf, Ema. Ac ar ôl iddi symud i ffwrdd, cymerodd Rhiannon a Myfanwy at yr awenau tra eu bod nhw’n medru. Hoffwn feddwl fy mod i’n cofio pob un o’r llu o blant y fro a ymunodd â’r clwb ar hyd y blynyddoedd, ond does dim gobaith.
A chwarae teg, mae’r ddeugain mlynedd rheini wedi gadael marciau traul arnom ni i gyd!
Ioan Williams