Clerc Cyngor Tregaron yn ymddeol

Diolch Heulwen Bulman.

gan Fflur Lawlor

Mae Mrs Heulwen Bulman wedi ymddeol fel Clerc Cyngor Tref Tregaron wedi bron i un deg saith mlynedd o wasanaeth.

Oherwydd cyfyngiadau y pandemig, ni fu’n bosib cynnal digwyddiad i ddiolch iddi tan ddiwedd mis Mehefin, lle cawsom gyfle i gyflwyno anrheg i ddangos ein  gwerthfawrogiad o’i gwasanaeth. Cawsom noson hwyliog yn y Clwb Bowlio gan gadw at reolau COVID.