Cefnogaeth gan Aelod o’r Senedd i alwad mam leol am fwy o wasanaethau profedigaeth

Mae Rhian Wyn o Bontrhydfendigaid yn un o’r rhai sydd wedi galw am well cefnogaeth i deuluoedd

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

James Evans o’r Ceidwadwyr Cymreig

Mae mam o Bontrhydfendigaid yn un sy’n galw am well gwasanaeth cymorth i deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid sydd wedi lladd eu hunain.

Fe wnaeth Rhian Wyn golli ei mab, Caio, i hunanladdiad y llynedd tra’r oedd yn byw yng Nghaerdydd.

“Anghofia’i fyth o Ionawr y seithfed 2020 pan dda’th yr heddlu at y drws i ddweud bod Caio’r mab wedi lladd ei hunan. Pan a’th y plismon, do’dd dim sôn am unrhyw gefnogaeth,” meddai Rhian Wyn wrth BBC Cymru Fyw.

Nawr mae hi, a theuluoedd eraill o Gymru, yn galw i sicrhau bod staff arbenigol ar gael i’w helpu nhw drwy’r broses o alaru ar ôl profedigaeth.

Mae cynllun o’r fath eisoes ar y gweill yn yr Alban i helpu teuluoedd saith diwrnod yr wythnos am hyd at ddwy flynedd.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi canllawiau ar gyfer gwasanaethau profedigaeth.

‘Mae pob bywyd sy’n cael ei golli i hunanladdiad yn gwbl drasig’

Wrth ymateb, ychwanegodd James Evans AoS, llefarydd iechyd meddwl y Ceidwadwyr Cymreig, ei gefnogaeth i’r alwad am gynllun peilot i gefnogi teuluoedd saith diwrnod yr wythnos am ddwy flynedd.

Mae e hefyd am weld canolfannau argyfwng yn cael eu sefydlu, yn ogystal â Deddf Iechyd Meddwl newydd.

“Mae pob bywyd sy’n cael ei golli i hunanladdiad yn gwbl drasig,” meddai.

“Does dim amheuaeth fod angen mwy o gefnogaeth i helpu i atal hunanladdiad, ond er bod sefydliadau gwych yng Nghymru, mae angen hefyd fod cefnogaeth gadarn yn ei lle i deuluoedd pan fo hunladdiadau, yn drist iawn, yn digwydd.

“Mae aelodau’r teulu’n dioddef poen a thrawma y tu hwnt i eiriau pan fo anwyliaid yn cyflawni hunanladdiad, ac mae’n amser sy’n ypsetio’n eithriadol, ond mae rhai yn teimlo nad oes digon o gefnogaeth iddyn nhw, os o gwbl, ac mae angen i hynny newid ar frys.

“Rwy’n ymbil ar weinidogion Llafur i ddechrau edrych ar gynllun peilot ar gyfer staff arbenigol i gefnogi teuluoedd saith diwrnod yr wythnos am hyd at ddwy flynedd, yn debyg i’r hyn sydd gan wledydd eraill yn eu lle.

“Ac mae hi hefyd yn hanfodol fod y Llywodraeth Cymru hon o dan arweiniad Llafur yn edrych ar greu canolfannau argyfwng 24/7 ar gyfer pobol sy’n cael argyfyngau iechyd meddwl a chyflwyno Deddf Iechyd Meddwl newydd a fydd, gobeithio, yn helpu i atal hunanladdiadau yn y lle cyntaf.”