Bwrdd Digidol

Tregaron yn cyrraedd yr oes fodern!

gan Arwel Jones

Yn ddiweddar gosodwyd bwrdd digidol ar y sgwâr yn Nhregaron. Mae’r prosiect hwn mewn partneriaeth rhwng Cyngor Tref Tregaron a Whilen y Porthmyn ac fe’i hariennir gan Gynnal y Cardi.

Ar hyn o bryd mae’n arddangos baner “Aros yn lleol, Aros yn ddiogel” Cyngor Sir Ceredigion ond cadwch lygad allan dros yr wythnosau nesaf pryd y bydd y bwrdd yn gwbl weithredol ac yn bwynt gwybodaeth yn y dref.

Bydd y bwrdd yn darparu gwybodaeth ynglŷn a llefydd bwyta ac aros yn yr ardal ynghyd â manylion teithio, llwybrau cerdded, atyniadau lleol, calendr digwyddiadau, cyfleusterau lleol a thipyn o hanes y dref.

I gael rhagor o wybodaeth neu os ydych chi am weld eich mudiad neu ddigwyddiad ar y bwrdd yna e-bostiwch clerc@cyngor-tregaron-council.org.uk