Artist ifanc lleol yn gwneud ei farc ers graddio o Ysgol Gelf Glasgow Haf 2019

Arddangos Celf tu ôl i ddrysau clo oriel MOMA Machynlleth.

gan Gwenllian Beynon
Guto Morgan Llun yr ArtistGuto Morgan
Plet 1Guto Morgan

Peintiad

RhithGuto Morgan

Peintiad

CellGuto Morgan

Peintiad

Cafodd Guto Morgan ei eni ym Mhontrhydfendigaid a mynychodd Ysgol Gymunedol Bontrhydfendigaid ac Ysgol Uwchradd Tregaron cyn mynd ymlaen i astudio yn Ysgol Gelf Caerfyrddin, yn 2011. Meddai Guto ‘dwi bellach yn byw ym Mhenrhyn-coch.’ Ac mae’n gweithio fel ‘arlunydd yn gweithio’n bennaf â phaent olew ar gynfas ac ar fwrdd.’

Graddiodd Guto Morgan (g. 1991) gyda gradd Dosbarth Cyntaf yng Nghelf Gain o Ysgol Gelf Glasgow ym mis Mehefin 2019. Mae’n gweithio gyda ffotograffiaeth, delweddu digidol, collage papur, darlunio a phaentio.

Fel i nifer o raddedigion yn ystod y cyfnod clo, mae wedi colli allan ar fedru graddio yn y ffordd arferol a dathlu gyda theulu a ffrindiau. Ond mae Guto yn llwyddo i wneud ei farc yn y byd Celf ac wedi arddangos yng Nghaerfyrddin, Llundain, Glasgow ac ar hyn o bryn yn arddangosfa Artistiaid Ifainc Cymru/ Young Welsh Artists yn MOMA Machynlleth. 

Agorodd yr arddangosfa ar yr 28ain o Dachwedd 2020 ac mae yno tan y 23ain o Ionawr, ond yn anffodus, oherwydd effaith y pandemig nid yw MOMA ar agor i’r cyhoedd ar hyn o bryd. Mae modd cael hanes yr arddangosfa a gwaith yr artistiaid ifanc eraill sydd yn yr arddangos ar y cyd â Guto ar y we  ac ar Instagram Artistiaid Ifainc Cymru.

Yn ei beintiadau mae Guto yn cyflwyno i ni ‘elfennau mewnol domestig … ynghyd ag agweddau personol, gweddillion lleoedd ac amser.’ A fedrwn ni’r gwylwyr weld hyn yn glir a hynod o ddiddorol yn y peintiad Plet. Prif themâu celf Guto yw gofod a lle (Space and place).

Mae edrych ar ofod trwy lygaid artist yn hynod o ddiddorol a gwelir ym mheintiadau Guto nid yn unig y lleoliad, yr ystafell ond hefyd y gofod, y gwagle, y lle o amgylch y siapiau a’r cysgodion sydd yn creu dyfnder a falle dimensiwn arall i fynd iddo.

Mae modd gweld Gwaith celf Guto ar ei wefan Guto Morgan neu ar ei Instagram Guto Morgan

Yn bersonol, rwy’n cofio gwaith Guto tra oedd yn yr ysgol gynradd ym Mhontrhydfendigaid ac yn cofio ei allu i dynnu lluniau ac i beintio. Rwyf wedi dilyn ei yrfa hyd yn hyn ac yn falch iawn i weld ei waith yn datblygu ac yn cael ei arddangos. Trueni mawr yw gweld ein horielau ar glo ond serch dweud hynny mae modd cefnogi’r artistiaid trwy ymweld â nhw ar eu gwefannau cymdeithasau cymunedol.

Llongyfarchiadau i Guto ar gael ei ddewis i arddangos yn y sioe yma a phob llwyddiant iddo yn y dyfodol.

Mari Elin o Flaencaron oedd un o Guraduron yr arddangosfa. Mae Mari Elin yn guradur yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, yn awdur ac yn arlunydd ‘sy’n ymddiddori ym mhob agwedd o ddiwylliant Cymreig a’r amgylchedd’.

Maen grêt gweld y Celfyddydau Gweledol gan bobl ifanc leol yn ffynnu.