Arddangosfa Rebecca Wyn Kelly yn Abaty Ystrad Fflur

Arddangosfa Genius Loci. Ymateb i leoliad.

gan Gwenllian Beynon
Ffermdy Mynachlog Fawr tu ol i waith Rebecca Wyn Kelly

Celf Rebecca Wyn Kelly

Dwr a'r Ffynnon

Celf Rebecca Wyn Kelly

Golwg o'r gosodwaith

Celf Rebecca Wyn Kelly

Broc môr

Broc môr lliw aur ar olion waliau mewnol yr Abaty Celf Rebecca Wyn Kelly

Bwa Ystrad Fflur a Fynediad yr arddangosfa

Celf Rebecca Wyn Kelly

“Mae fy mhreswylfa artistig yn Ystrad Fflur wedi cyfoethogi fy niddordeb gyda Genius Loci. Genius Loci yw’r argraff y mae cymeriad neu awyrgylch unigryw lle yn cael ar y meddwl, y corff a’r enaid.”

Magwyd Rebecca yn Aberarth ac felly mae’r cysylltiad rhwng Aberarth ag Ystrad Fflur wedi bod yn rhan o’i hysbrydoliaeth sbel cyn iddi ymweld â’r Abaty, a gweithio yno fel artist preswyl. Roedd mynachod Ystrad Fflur yn ‘pysgota yno (yn Aberarth) 800 mlynedd yn ôl,’ felly mae’r cyswllt iddi hi fel artist o Aberarth a hanes y mynachod yn amlwg yn yr arddangosfa sydd yn ymateb i’r lleoliad hwn.

Mae Rebecca wedi gwneud ei hymchwil yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ac wedi ymchwilio i hanes Ystrad Fflur a hanes y mynachod, ac wedi ystyried y pwysigrwydd o leoliad ac ysbryd y lleoliad hanesyddol hwn.

Es i i gwrdd â Rebecca yng nghanol glaw mân ar ddiwrnod o haf ym mis Awst, ar ddiwrnod agor yr arddangosfa yn swyddogol i’r cyhoedd, a chefais sgwrs ddifyr iawn gyda hi fel y gwelir yn y ffilm.

Mae’r arddangosfa yn Abaty Ystrad Fflur tan fis Medi.

Ceir mwy o wybodaeth am Rebecca Wyn Kelly ar ei gwefan neu ar Instagram rebeccawynkelly

Ac am yr arddangosfa ar Wefan Cadw